Module Information

Module Identifier
TR20120
Module Title
Traethawd Estynedig
Academic Year
2017/2018
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
CR12130 and CR12430
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 6 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 1 x Seminar 2 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Estynedig   6000-8000 o eiriau i’w cyflwyno ar ddiwedd yr semester. Gofynnir i adroddiad ymchwil gael ei gyflwyno hefyd. Gall methu cyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.  100%
Supplementary Assessment Traethawd Estynedig   6000-8000 o eiriau. Os bydd myfyriwr yn methu’r asesiad ac yn dymuno ailgyflwyno, rhaid cyflwyno traethawd ar bwnc sydd yr un yn ei hanfod ag y cyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth gan y cyfarwyddwr gwreiddiol, neu oni bydd hynny’n bosibl, gan gydgysylltydd y modiwl. Ni ddarperir rhagor o oruchwyliaeth. Nid oes angen cyflwyno cynllun ymchwil pellach nac adroddiad. Gall myfyrwyr fynychu darlithoedd ar y traethawd os dymunir, a chodi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda chydgysylltydd y modiwl.  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Ennill y sgiliau angenrheidiol er mwyn ymchwilio i faes troseddeg o ddewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil mewn modd clir, trefnus a dealladwy er mwyn hyrwyddo’r wybodaeth a’r syniadau a gyflwynir yn y gwaith ymchwil.

ymhwyso’r sgiliau a enillwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil at eu dewis faes troseddeg neu seicoleg gymhwysol.

Gellir crynhoi canlyniadau hyfforddiant y modiwl hwn fel a ganlyn:
(a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo;
(b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc;
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd;
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi trefn ar ddeunydd er mwyn cyflwyno’r ddadl a’r data yn effeithiol;
datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 6000 – 8000 o eirirau.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwilio troseddegol parhaus ac ysgrifennu am bwnc arbennig yn hytrach nag wedi ei seilio ar gwrs astudio sydd wedi’i bennu. Y myfyriwr, gyda chymeradwyaeth yr Adran, fydd yn dewis pwnc i ymchwilio iddo’n fanwl ac yn symud ymlaen i’r camau ymchwilio ac ysgrifennu dan gyfarwyddyd aelod staff sy’n gyfarwydd â’r maes y mae pwnc y traethawd yn perthyn iddo. Bydd yr ymarfer cyffredinol o ymchwilio ac ysgrifennu’r traethawd yn adeiladu ar wybodaeth o, a hyfforddiant wrth ddefnyddio, adnoddau’r llyfrgell a ddarperir yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg / Darlleniadau mewn Seicoleg ac Elfennau o Droseddeg. Mae’n adeiladu hefyd ar yr hyfforddiant yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg/Seicoleg a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn gwneud defnydd ymarferol o’r gallu i ddeall methodolegau gwyddor gymdeithasol fel a ddysgir yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae gwaith ymchwil llwyddiannus yn rhagdybio’r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau trwy gronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Bydd y goruchwyliwr a bennir yn darparu cyfarwyddyd trwy gyfres o gyfarfodydd lle bydd y myfyriwr yn adrodd ar ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arno/arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw cynghori ynghylch methodoleg ymchwil a chyflwyno’r ymchwil yn y traethawd ei hun.


Notes

This module is at CQFW Level 5