Module Information

Cod y Modiwl
TC32120
Teitl y Modiwl
Genrau Teledu
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Astudiaethau Ffilm a Theledu yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Portffolio Critigol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (3000 o eiriau) - (i deitl newydd)  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol (2000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Trin a thrafod y prif ddadleuon a theoriau yn y maes mewn ffordd datblygiedig a chritigol
2. Egluro nod a phwrpas teledu yn y gymdeithas a'r byd masnachol
3. Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli teledu yn gritifol
4. Dadansoddi a dehongli rhaglenni o nifer o wahanol genrau

Nod

Diwygir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwythuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn edrych ar un o brif ffynonellau adloniant a gwybodaeth cymdeithasau ar draws y byd ers degawdau.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar deledu drwy brism nifer o genrau. Fydd trean cyntaf y tymor yn edrych ar ddamcaniaethau sylfaenol ar gyfer astudio teledu, ac fe fydd y gweddill y semester yn edrych ar nifer o genrau teledu.

Cynnwys

Darlithoedd
1. Theoriau traddodiadol teledu
2. Teledu a Chynrychiolaeth Cymdeithasol
3. Y gwyliwr Gweithredol
4. Cynhyrchu Teledu
5. Newyddion
6. Opera Sebon
7. Drama Deledu
8. Dogfen
9. Chwaraeon
10. Comedi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Rhifedd Ddim yn berthnasol i'r modiwl.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6