Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Tutorial | 11 x Tiwtorial 4 Awr |
Tutorial | 11 x Tiwtorial 1 Awr |
Tutorial | 10 x Tiwtorial 1 Awr |
Lecture | 3 x Darlithoedd 1 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau) | 100% |
Supplementary Assessment | traethawd (2000 geiriau) a crynodeb (500 geiriau) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r myfyriwr bod yn gallu:
1. Dadansoddi, asesu and gwerthuso'r rolau a sgiliau'r gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio mewn lleoliad cymhwysol
2. Datblygu cwestiwn sydd yn berthnasol i'r gweithle ag sydd yn seiliedig ar y profiad gwaith
3. Ymchwilio, dadansoddi ac asesu'r ffenomenau mewn ffordd addas.
4. Arddangos ymwybyddiaeth o foeseg y gweithle
5. Cadw dyddiadur adfyfyriol o'r profiad gwaith
6. Ysgrifennu traethawd sydd yn seiliedig ar y cwestiwn a gynhyrchwyd yn ystod y profiad gwaith, a defnyddio'r wybodaeth o'r traethawd i ddatblygu resume.
Brief description
Modiwl lleoli yw SC20620 sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau yn y gweithle. Nod y modiwl yw datblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyriwr mewn meysydd sy’n bwysig ar gyfer recriwtio graddedigion yn ôl yr Asiantaeth Addysg Uwch a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Er enghraifft, datrys problemau, myfyrio, sgiliau ymchwil, cyfathrebu, gwella eich dysgu a’ch perfformiad eich hun, datblygiad personol a chynllunio gyrfa a sgiliau pwnc sy’n berthnasol i seicoleg. Caiff myfyrwyr hefyd olwg ar y cyd-destun cynhwysol a’r rolau sy’n gysylltiedig â’r gweithle er mwyn hwyluso eu syniadau eu hunain am lwybrau gyrfa a dyheadau. Bydd y lleoliad gwaith yn gyfle i bob myfyriwr gael profiad mewn meysydd proffesiynol, gwirfoddol neu feysydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Bydd pob myfyriwr yn gyfrifol am sicrhau ei leoliad ei hun.
Aims
1. I ddarparu myfyrwyr a gwybodaeth am brif agweddau seicoleg mewn cymhwysiad
2. I hyrwyddo lleoliad gwaith ble gall myfyrwyr gyfrannu
3. I drafod defnydd sgiliau trosglwyddedig a seicolegol mewn lleoliad cymhwysol.
Content
Paratoi ar gyfer y lleoliad gwaith a sgiliau trosglwyddadwy.
Seicoleg yn y gweithle
Gwaith tîm yn y gweithle
Hyfforddiant yn y gweithle
Moeseg yn y gweithle
Y gweithiwr proffesiynol adfyfyriol
Lleoliad: un lleoliad werth ugain-awr a ddewiswyd o ardaloedd o leoliadau clinigol, addysgol, diwydiannol, sefydliadol a chymunedol naill ai fel cyflogai neu fel gwirfoddolwr. Caniateir i fyfyrwyr sydd eisoes wedi'i chyflogi rhan amser i ysgrifennu am y profiad hwn fel rhan o'r modiwl at yr amod y gallant ddatblygu cwestiwn ymchwil addas.
Notes
This module is at CQFW Level 5