Module Information

Cod y Modiwl
RG25500
Teitl y Modiwl
Prosiect
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect.  100%
Asesiad Ailsefyll Prosiect.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

    Canlyniad 1 Llunio prosiect addas gan ddefnyddio fformat adroddiad technegol.

Canlyniad 2
Darparu cyflwyniad a rhesymau dros astudio'r pwnc.

Canlyniad 3
Ymgymryd ag arolwg o lenyddiaeth

Canlyniad 4
Defnyddio methodoleg briodol (os yn gymwys)

Disgrifiad cryno

Wrth gyflawni modiwl y prosiect bydd myfyrwyr yn ysgrifennu adroddiadau technegol ac yn ymchwilio'n fanwl i bynciau penodol. Mae disgyblaeth a thrylwyredd y broses yn sgil sy'n hanfodol i holl fyfyrwyr HND.

Bydd prosiect y flwyddyn olaf yn cymryd ffurf astudiaeth archwiliadol (treial, arbrawf neu arolwg) neu astudiaeth achos/astudiaeth dichonoldeb estynedig o broblem benodol neu bwnc. Bydd angen archwilio a gwerthuso problem benodol/pwnc trwy adfer gwybodaeth o sawl ffynhonnell gwahanol.
Mae prosiect archwiliadol yn gofyn am gynllunio systemau dadansoddi, a gwerthuso data arbrofol a gesglir o dreialon, arbrofion, arolygon neu astudiaethau achos.

Cyflwynir y prosiect fel adroddiad technegol. Bydd yn croes-gysylltu ac yn integreiddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd mewn sawl modiwl cwrs. Bydd y prosiect yn datblygu sgiliau trefnu, adfer gwybodaeth, ysgrifennu adroddiadau technegol, gwerthuso a dehongli data o wahanol ffynonellau, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, a ffurfio casgliadau ac argymhellion.



Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5