Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 7 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr |
Darlith | 13 x Darlithoedd 1 Awr |
Tiwtorial | 10 x Tiwtorial 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Rhaglennu Aseiniad Rhaglennu (22%), Aseiniad Cyflwyniad Gweledol (22%), Aseiniad Ystadegaeth (22%), Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a Curriculum Vitae (12%), Cyflwyniad Grwp (11%), Cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg (11%) | 25% |
Asesiad Semester | Aseiniad taenlen | 25% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad unigol ar destun mewn Mathemateg | 20% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad grwp ar yrfaoedd | 15% |
Asesiad Semester | Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a Curriculum Vitae Arholiad ymarferol ar daenlenni ac ystadegaeth | 15% |
Asesiad Ailsefyll | Ar benderfyniad y Bwrdd Arholi | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Gosod, neu addasu, taenlen i wneud amrywiaeth o gyfrifiadau a chynhyrchu crynodebau, arddangos y data a chanlyniadau.
Ysgrifennu a dadfygio rhaglenni cyfrifiadur i ddatrys problemau mathemateg ac arddangos graffiau.
Defnyddio pecynnau meddalwedd i gynhyrchu dogfennau syml fel Curriculum Vitae, cyflwyniad neu boster.
Gweithio mewn grwpiau i ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth am yrfaoedd Mathemateg.
Gweithio'n unigol i ymchwilio a chyflwyno pwnc mewn Mathemateg.
Deall sut i ymgeisio am swydd, gan amlygu sgiliau a phrofiad i gyflogwr.
Nod
Mae'r modiwl yn cynnig cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trowglwyddadwy wedi'u cynllunio i wella profiad dysgu a chyflogadwyaeth myfyrwyr.
Disgrifiad cryno
Fel rhan o'r modiwl mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau ble bydd pob myfyriwr yn paratoi Llythyr Cyflwyno a Curriculum Vitae. Drwy weithio mewn timau bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion eu disgyblaeth ac i'r defnydd o'r sgiliau a ddatblygir yn eu cyrsiau ar gyfer y gyrfaoedd yma. Bydd y timau yn rhoi cyflwyniad grwp ar sail eu hymchwiliad gan ddefnyddio'r pecyn cyflwyniad.
Bydd y myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr unigol ar destun mewn Mathemateg.
Cynnwys
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi CV, wedi'i redeg gan y Gwasanaeth Cynghori Gyrfaoedd.
Cyflwyniadau grwp ar y berthynas rhwng sgiliau a feddianir gan Fathemategwyr a'r gyrfaoedd posib iddynt.
Taenlenni: trosolwg o daenlenni, rhoi gwybodaeth i mewn a'i fformatio, fformwlau a ffwythiannau, ymdrin a delweddu set mawr o data.
Rhaglenni: cyflwyniad sylfaenol i feddalwedd ac egwyddorion rhaglenni cyfrfiadurol gyda delweddu gweledol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r CV a'r aseiniadau ysgrifenedig. Datblygir cyfathrebu ar lafar drwy'r cyflwyniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a'r cyflwyniad grwp a yn darparu cyfleoedd i gynllunio ar gyfer gyrfa. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau yn y modiwl drwy aseiniadau taenlen ac aseiniadau rhaglenni ac wrth baratoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg. |
Gwaith Tim | Mewn grwpiau y gwneir y gwaith sy'n arwain at y cyflwyniad grwp. |
Rhifedd | Caiff cysyniadau a thechnegau rhifyddol eu hystyried yng nghyd-destun y pecynnau taenlen ac ystadegaeth. |
Sgiliau ymchwil | Caiff sgiliau ymchwil eu datblygu wrth ymchwilio i destun y cyflwyniad ac ymchwilio i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiol fathau o gyflogaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o becynnau cyfrifiadur. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4