Module Information
Course Delivery
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau yn y gweithdy. Bydd yr ymarferion yn trafod a) adnabod achosion o lenladrata, b) pa faterion moesegol all ymddangos mewn ymchwil, a c) yr hyn a ddylid ei wneud gyda data. Bydd yr ymarferion yn cael eu cwblhau mewn amgylchedd grwp bach a byddant yn cael eu hasesu gan gyfoedion (darperir meini prawf asesu priodol). | 30% |
Semester Assessment | Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein ar gyfer eu prosiect ymchwil yn llwyddiannus. Golyga hyn bod y person priodol yn eu Hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil) wedi ei gymeradwyo. | 40% |
Semester Assessment | Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect ymchwil. Gellir gwneud hyn ar-lein. Bydd angen i'r cynllun fod yn addas ar gyfer y prosiect ymchwil a chael ei gymeradwyo gan yr arolygydd. | 30% |
Supplementary Assessment | Ailgyflwyno elfennau methu |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. deall ac asesu llenladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.
2. deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.
3. deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.
Brief description
Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.
Aims
Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.
Content
Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Rhwydweithio yn ystod y gweithdy |
Improving own Learning and Performance | Yn ystod y gweithdy |
Information Technology | Proses cymeradwyo moesegol ar-lein |
Personal Development and Career planning | Ymhob agwedd. |
Problem solving | |
Research skills | Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy. |
Subject Specific Skills | Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan. |
Team work |
Notes
This module is at CQFW Level 7