Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect ysgrifenedig unigol (2,000 gair) | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar ar y prosiect ysgrifenedig unigol | 20% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod nhw'n gallu ymdrin yn feirniadol a phrif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia yn ei chyd-destun (mewn perthynas a'r Ariannin ac America Ladin yn gyffredinol);
Dangos eu bod nhw'n yn gyfarwydd a cherrig milltir hanes Patagonia a gallu gwneud cysylltiadau ac adnabod patrymau cyffredinol
Dangos eu bod nhw'n gallu dadansoddi elfennau o hanes cyfredol yr ardal a'u cysylltu a digwyddiadau'r gorffennol;
Dangos eu bod nhw wedi datblygu ystod o sgiliau perthnasol sydd yn eu galluogi i ystyried deunyddiau llenyddiaeth a ffilm yn feirniadol ac yn ddadansoddol er mwyn ffurfio barn.
Cynnwys
Patagonia a'r gwahanol ddychmygion: tlws y wladwriaeth, tirlun teithio i dramorwyr, tirlun teithio i Archentwyr, cerdyn post Patagonia ar ffilm; Realiti Patagonia a dilyniant gorthrwm; Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau; Patagonia ar y newyddion.
Wythnos Themau
1.
15 Cyflwyniad i'r modiwl + aseiniadau
Cyflwyniad i'r rhanbarth - 'Cewri' Patagonia - Brodorion - Yr Oes Darganfod: mordwyo a mapio Patagonia
2.
16 Bwrlwm mordwyo: cyrchfan llongau tramor - Y Byd yn llygadu Patagonia - Patagonia'n Dir Neb - Gwlad iwtopiau: Teyrnas Araucania a Phatagonia - Mordeithiau'r Beagle
3.
17 Yr Ariannin a Chile: adeiladu gwlad - Meddylfryd 'Gwareiddiad yn erbyn Barbariaeth': Ymgyrchoedd yn erbyn y brodorion - Poblogi Patagonia ddwyreiniol a gorchfygu'r 'anialwch'
4.
18 Trafod cynlluniau marcio ar gyfer y cyflwyniad a'r prosiect ysgrifenedig
Poblogi Patagonia ddwyreiniol: yr Ariannin ar ol 1885 - Canlyniadau 'Concwest yr Anialwch': brodorion a thirfeddianwyr - Gwlad iwtopiau: y Wladfa
5.
19 Meddiannu Patagonia: Patagonia Drasig Borrero - Nouzeilles 1999: gwrthdroi mythau daearyddol ymerodrol a chyflwyno Patagonia fel ymgorfforiad o'r Wladwriaeth - Perito Moreno: mapio'r tiroedd ac adeiladu'r genedl - Gwyddoniaeth a'r Fyddin - Strategaethau tuag at y brodorion - Delweddu'r rhanbarth: ffantasi rwystredig ond tirlun Patagonia fel ffetis - Patagonia fel Tlws y Wladwriaeth
6.
20 Patagonia fel tirlun teithio i dramorwyr ac Archentwyr - Cerdyn post Patagonia: Patagonwyr fel travelees - Y Wladfa heddiw
7.
21 Cyflwyniadau llafar ar brosiectau ysgrifenedig
Realiti Patagonia: brodorion, tirfeddianwyr (e.e. Gwrthryfel ym Mhatagonia), dilyniant gorthrwm, tramorwyr a damcaniaethau cynllwynio
Cyfnod yr Adennill: lleisiau Patagonaidd, brodorion yn mynnu hawliau + Camusu Aike (OND Benetton ayyb); Patagonia ar y newyddion
8.
22 Cyflwyno prosiectau ysgrifenedig
Dangosiad: Separado! + trafodaeth: Patagonia a'r gwahanol ddychmygion
9.
23 Iparraguirre a'i La tierra del fuego I
10.
24 Iparraguirre a'i La tierra del fuego II
Cloi: trosolwg o'r modiwl + gwerthuso profiad y myfyrwyr
11.
25 wythnos adolygu / paratoi ar gyfer arholiadau
Disgrifiad cryno
DS: Nid oes rhaid medru Sbaeneg er mwyn dilyn y modiwl hwn.
Nod
Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno prif elfennau cymdeithas a diwylliant Patagonia gyfoes i fyfyrwyr israddedig drwy ddeunyddiau llenyddiaeth, ffilm a chyfryngau amrywiol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir: * Y galli i gyfathrebu gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn effeithiol (cyfraniad llafar yn ystod y gwersi, ysgrifennu prosiect, cyflwyniad llafar a pharatoi arholiad) * Y gallu i grynhoi a threfnu gwybodaeth * Y gallu i fynegi dadl a'i hamddiffyn |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir: * Y gallu i adnabod gwahaniaethau diwylliannol ac ymateb iddynt. * Y gallu i weithio'n annibynnol, gosod blaenoriaethau, rheoli amser yn effeithiol a chwblhau gwaith mewn pryd |
Datrys Problemau | Datblygir: * Y gallu i adnabod, trafod a dadansoddi materion cymhleth yn ymwneud â maes y modiwl * Y gallu i gynnig dadleuon rhesymegol, gwerthuso honiadau a datblygu barn feirniadol |
Gwaith Tim | Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r profiad dysgu ar y modiwl |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir: * Y gallu i fyfyrio ar y broses ddysgu a defnyddio adborth adeiladol |
Rhifedd | Nid yw'r modiwl yn ymdrin â'r sgil hon yn uniongyrchol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir gwybodaeth bellach o'r pwnc a astudir (Ieithoedd Modern, Cymraeg, Daearyddiaeth) yn ogystal ag o'r iaith Gymraeg/Sbaeneg ar sail amrywiaeth o ffynonellau llafar ac ysgrifenedig |
Sgiliau ymchwil | Datblygir: * Y gallu i chwilio am wybodaeth bellach (ymchwilio) a chyflwyno gwaith ysgrifenedig * Y gallu i gasglu, crynhoi a dadansoddi gwybodaeth a thystiolaeth oddi ar ystod o ffynonellau cynradd ac eilradd (deunyddiau papur, clyweled ac electronig) |
Technoleg Gwybodaeth | Datblygir y gallu i ddefnyddio TG yn effeithiol, nid yn unig fel ffordd o gyfathrebu a chyflwyno gwaith ond hefyd fel cymorth ar gyfer dysgu (Blackboard a'r Porth, meddalwedd prosesu geiriau, ymchwilio ar y we). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6