Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Essay 1 2,500/3,000 word essay | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Essay 2 2,500/3,000 word essay | 50% |
Asesiad Semester | Essay 1 2,500/3,000 word essay | 50% |
Asesiad Semester | Essay 2 2,500/3,000 word essay | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a defnyddio'r gwahanol gysyniadau a ddefnyddir gan haneswyr i ddadansoddi cymunedau yn y cyfnod hwn.
Arddangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth berthnasol, ei esblygiad a'r problemau allweddol sy'n dwyn sylw haneswyr yn y maes.
Darllen a gwerthuso'r hanesyddiaeth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur.
Gweithio'n annibynnol a gydag eraill.
Disgrifiad cryno
`Dosbarth cymdeithasol' a `chymuned' yw dau o'r cysyniadau allweddol a ddefnyddir gan haneswyr yn eu hymgais i ddeall cymdeithas Cymru fodern. Trwy gyplysu dosbarth a chymuned, mae haneswyr Cymru wedi cyfrannu'n fawr at ein dealltwriaeth o sut y crewyd hunaniaethau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd arbennig. Yn y modiwl hwn, byddwn yn craffu ar y berthynas rhwng y ddau gysyniad pwysig yng nghyd-destun Cymru wedi 1850. Yn ogystal, bydd y modiwl yn archwilio'r safbwyntiau hanesyddiaethol newydd sy'n herio syniadau derbyniedig am `gymuned'. Er enghraifft, gofynnir i ba raddau y mae hanes merched mewn cymunedau dosbarth gweithiol yn cynnig darlun llai canmoladwy o'r ddelwedd gynnes o gymuned. Hefyd gofynnir i ba raddau y defnyddiwyd teimlad o gymuned i ymosod ar bobl o'r tu allan, yn arbennig mewnfudwyr a phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol, megis y Gwyddelod a'r Iddewon.
Nod
Y mae'r MA fel cyfanwaith yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o bynciau allweddol yn Hanes Cymru ac yn darparu hyfforddiant o ran adnabod a dehongli y dystoliaeth hanesyddol berthnasol. Cynigai'r modiwl hwn agoriad i un o themau canolog hanes Cymru.
Cynnwys
1. Llonyddwch cymdeithasol wedi 1850: cymuned v. dosbarth
2. Gwrthdaro cymdeithasol yn y cefn gwlad
3. Cymuned a dosbarth mewn trefi glofaol, 1870-1898
4. Gwrthdaro cymdeithasol ym maes glo'r De, 1898-1914
5. Gwrthdaro ethnig: mewnfudwyr a `chymuned'
6. Rhywedd a chymuned rhwng y rhyfeloedd
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa |
Datrys Problemau | Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth |
Rhifedd | Gan ddibynnu ar destunau traethawd, gellir defnyddio gwybodaeth rifyddol sylfaenol er mwyn astudio maint daliadau tir, gwerthoedd rhent, prisiau cnydau a chyfoeth unigolion a theuloedd |
Sgiliau ymchwil | Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7