Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Eiriau 1 Traethawd 2,500/3,000 o eiriau | |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Eiriau 2 Traethawd 2,500/3,000 o eiriau | |
Asesiad Semester | Traethawd Eiriau 1 Traethawd 2,500/3,000 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd Eiriau 2 Traethawd 2,500/3,000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Adnabod a defnyddio'r gwahanol agweddau ar y ffynonellau gwreiddiol a ddefnyddir gan haneswyr i ailgreu hanes tirfeddiannaeth yn y cyfnod hwn.
Arddangos dealltwriaeth o'r hanesyddiaeth berthnasol, ei esblygiad a'r problemau allweddol sy'n dwyn sylw haneswyr yn y maes.
Darllen a gwerthuso'r dystiolaeth wreiddiol a'r hanesyddiaeth yn effeithiol ar lafar ac ar bapur.
Gweithio'n annibynnol a gydag eraill.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir myfyrwyr i'r ffynonellau a dulliau dehongli a ddefnyddir ar gyfer astudio tirfeddiannaeth yng Nghymru ar ddiwedd y cyfnod modern cynnar. Olrheinir rhai o'r newidiadau arwyddocaol yn ystod y cyfnod modern cynnar, gan gynnwys effeithiau hir dymor y Deddfau Uno, dirywiad demograffig ac uno stadau mawrion. Archwilir pwysigrwydd tirfeddiannaeth o ran cymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod ac astudir gwahanol agweddau gwahanol haenau o'r gymdeithas at berchnogaeth ac etifeddiaeth. Edrychir yn ogystal ar y berthynas rhwng meistri tir a'r haenau is a'r rhesymau dros densiwn yn y berthnas honno.
Nod
Y mae'r MA fel cyfanwaith yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dealltwriaeth ddyfnach o bynciau allweddol yn Hanes Cymru ac yn darparu hyfforddaint o ran adnabod a dehongli y dystoliaeth hanesyddol berthnasol. Cynigai'r modiwl hwn agoriad i un o themau canolog hanes Cymru.
Cynnwys
Tirfeddiannaeth, y Gyfraith ac Etifeddiaeth
Sesiwn ymarferol yn Adran Llawysgrifau'r LlGC
Tirfeddiannaeth, Gwleidyddiaeth a Grym
Stadau a'r Berthynas rhwng Haenau'r Gymdeithas
Afonyddwch Gwledig
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen ystod eang o ffynonellau cynradd ac eilradd, dangos a datblygu'r allu i gyfathrebu syniadau mewn traethawd. Datblygir sgiliau llafar mewn seminarau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymgymeryd â gwaith ymchwil hanesyddol, paratoi a chynllunio ar gyfer y cwrs a'r gyrfa. |
Datrys Problemau | Datblygu dulliau creadigol, gwreiddiol a systematig o ddatrys problemau, gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posib. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu personol ac anghenion personol; datblygu strategaethau realistig o ran dysgu a hunan-ddisgyblaeth |
Rhifedd | Gan ddibynnu ar destunau traethawd, gellir defnyddio gwybodaeth rifyddol sylfaenol er mwyn astudio maint daliadau tir, gwerthoedd rhent, prisiau cnydau a chyfoeth unigolion a theuloedd. |
Sgiliau ymchwil | Deall datblygiad ystod o ddulliau ymchwil ym maes hanes; deall sut yr estynir ffiniau dysg trwy ymchwil; cynhyrchu gwaith ysgrifenedig addas ar gyfer sefyllfa academaidd. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o declynnau chwilio ac ymchwil er mwyn archwilio'r ffynonellau a'r llenyddiaeth sy'n bodoli. Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin i baratoi gwaith ysgrifenedig i'w asesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7