Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminar | 10 x 2 Hour Seminars |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | 1 x prosiect 4,000 o eiriau | 80% |
Semester Assessment | Cyflwyniad Llafar | 20% |
Supplementary Assessment | 1 x prosiect 4,000 o eiriau | 80% |
Supplementary Assessment | 1 x traethawd byr o 1000 o eiriau | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos ymwybyddiaeth o hanes y Rhyfel Mawr a’i effeithiau ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru.
2. Dangos ymwybyddiaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau amrywiol, megis papurau newydd, hunangofiannau a hanes llafar, i astudio’r gorffennol.
3. Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, gan gynnwys ffynonellau printiedig, clywedol a gweledol.
4. Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar ac ysgrifenedig.
Aims
Bydd y modiwl hwn yn asesu amrywiaeth o ffynonellau sy’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr, er mwyn cynnig trosolwg i’r myfyrwyr o sut mae dealltwriaeth y Cymry o’r rhyfel a’i effeithiau wedi newid. Bydd y myfyrwyr yn cael y profiad o ddadansoddi ystod eang o ffynonellau, e.e. papurau newydd a chylchgronau, llythyrau, cartŵns a deunydd gweledol eraill, hunangofiannau, cyfweliadau gyda chyn-filwyr a rhaglenni teledu. Trwy ystyried amrywiaeth eang o ddeunydd, o gyfnod y rhyfel ei hunan a’r degawdau canlynol, bydd y myfyrwyr yn gallu dod i gasgliadau am effaith yr ymladd ar y genedl a’i ddylanwad dros y degawdau.
Brief description
Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o ddechrau’r 20fed Ganrif i'r presennol. Byddwn yn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau amrywiol er mwyn ceisio deall effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Defnyddiwn ysgrifau milwyr cyffredin a’u teuluoedd yn ogystal â datganiadau gwleidyddion a newyddiadurwyr; astudiwn farddoniaeth a chynnyrch artistiaid ac fe glywn leisau’r cyn-filwyr mewn cyfweliadau a wnaethpwyd degawdau wedi’r brwydro. Wrth astudio sut mae'r rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru.
Content
Cyflwyniad i’r modiwl; sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau.
Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel, a’r delweddau sydd yn gyfarwydd i’r Cymry; trafod rhaglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies
(Wythnos 2) Arwain at y rhyfel
Sut oedd y Cymry yn gweld y byd hyd at Awst 1914; Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr; Lloyd Geoge: ei gyfraniad a’i gymeriad. Sut oedd y Cymry yn deall realiti rhyfel ym 1914: faint ohonyn nhw oedd yn poeni am ryfel; faint ohonyn nhw oedd yn paratoi at ryfel?
(Wythnos 3) Awst 1914 i Ragfyr 1915
Sut ymateb cafwyd yng Nghymru i ddechreuad y rhyfel? Pa garfannau oedd y mwyaf brwd; faint o wrthwynebiad a gafwyd? Pa fath o bwysau a roddwyd ar ddynion ifainc i ymrestru? Pa ymatebion a gafwyd gan ferched Cymru?
(Wythnos 4) Ymladd
Gyda’r ymladd yn parhau i ffyrnigo, sut lwyddodd cymunedau yng Nghymru i ddygymod â’r sefyllfa? Sut lwyddodd teuluoedd i ymdopi tra bod eu dynion ifainc yn gwasanaethu? Sut oedd y dynion ifainc hynny yn deall eu rôl hwythau yn y rhyfel? Faint o wirionedd yr ymladd oedd yn hysbys trwy’r wasg i’r bobl gartref? Sut newidiodd syniadau pobl Cymru am wareiddiad?
(Wythnos 5) Hyd at 1918
Safbwyntiau sosialwyr am y rhyfel; gorfodaeth filwrol a gwrthwynebwyr cydwybodol; creu ‘mythiau’ Coedwig Mametz a Hedd Wyn; argyfyngau 1917 a 1918; parhad ‘iaith 1914’?
(Wythnos 6) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch
Ymatebion y Cymry i ddiwedd y rhyfel; buddugoliaeth Lloyd George yn etholiad 1918; Cytundeb Versailles; dathliadau heddwch, ac yna elfennau o anfodlonrwydd yn dod yn fwyfwy amlwg.
(Wythnos 7) Yn sgil y Dadrithio: Y Llewod a’r Asynnod;
Newid safbwyntiau wrth i gyflwr economaidd Cymru a gweddill y byd dirywio yn y 1920au; dirwasgiad a dadrithiad. Ymateb llenyddol: dylanwad All Quiet on the Western Front ar draws Ewrop a chwedl Hedd Wyn yng Nghymru. Atgofion Lloyd George, a rhoi’r bai ar y cadfridogion.
(Wythnos 8) Cyfnod yr Ail Ryfel Byd
Trafodaeth am y Rhyfel Mawr yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd
+ Cyflwyniadau Myfyrwyr
(Wythnos 9) Atgofion hen wŷr
Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg; atgofion Griffith Williams, Bob Owen ac Ithel Davies
(Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel
Sut mae haneswyr cyfoes yn ceisio rhoi’r cyfan mewn i gyd-destun diwylliannol. Portreadu’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw: Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008) + coffáu canmlwyddiant y Rhyfel
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn prosiect |
Improving own Learning and Performance | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Information Technology | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard |
Personal Development and Career planning | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Problem solving | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Research skills | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol |
Subject Specific Skills | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd |
Team work | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 5