Module Information

Cod y Modiwl
HA10620
Teitl y Modiwl
Y Dirwasgiad Mawr: Hanes Cymharol America a Phrydain
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 5 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,000 o eiriau  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad 1.5 awr  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,000 o eiriau  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 1.5 Awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio ac asesu datblygiadau'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn America a Phrydain.
2. Amgyffred canlyniadau gwahanol y Dirwasgiad Mawr ar bobl America a Phrydain.
3. Dadansoddi hanesyddiaeth y Dirwasgiad Mawr.
4. Gwerthuso tystiolaeth wreiddiol, megis llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau, posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth boblogaidd.

Disgrifiad cryno

Bu'r Dirwasgiad Mawr rhwng y ddau ryfel byd yn nodwedd a ddiffiniodd yr ugeinfed ganrif. Cafodd effaith ar ran fwyaf o'r byd a bu ei ganlyniadau cymdeithasol a gwleidyddol yn ddwfn a phell-gyrrhaeddol. Mae'r cwrs hwn yn ystyried y Dirwasgiad Mawr trwy gyfrwng astudiaeth gymharol o America a Phrydain gan archwilio'r ffactorau economaidd a achosodd broblemau economaidd mawr, maint a natur diweithdra ac atebion y ddwy lywodraeth i'r problemau y bu rhaid eu gwynebu yn y degawdau `low, dishonest.?
Hefyd, mae'r cwrs yn cymryd golygfa `oddi isod? gan ystyried y profiad o ddiweithdra a thlodi trwy ddefnyddio lleisiau y di-waith a'r tlawd. Mae'r ystyried yr atebion cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol i'r Dirwasgiad, megis gwleidyddiaeth adain-dde ac adain-chwith, mudo ac ymfudo, a chysylltiadau cenedl a llafur. Mae natur y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel byd yn parhau i achosi amrywiaeth barn ymysg haneswyr a bydd y cwrs hwn yn trafod y syniadau hyn ynghyd a dehongliadau adolygiadol. Bydd y cwrs yn defnyddio tystiolaeth wreiddiol gan gynnwys llyfrau, papurau newydd, pamffledi, ffotograffau, posteri, cartwnau, dogfennau ffilm, areithiau a cherddoriaeth poblogaidd.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themâu pwysig yn hanes America a Phrydain rhwng y ddau ryfel byd ac at hanes ‘oddi isod’. Bydd yn ehangu’r dewis sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr ac yn sylfaen ar gyfer astudiaethau pellach yn rhan 2.

Cynnwys

Darlithiau
1. Rhagymadrodd.
2. Dirwasgiad Economaidd a Diweithdra ym Mhrydain.
3. Cwymp Wall Street.
4. Diweithdra yn America.
5. Ffilm Ddogfen ar y Dust Bowl: 'The Plow That Broke the Plains'.
6. Ymatebion Llywodraethau i Ddiweithdra.
7. Cymorth i'r Tlodion.
8. Y Fargen Newydd yn America.
9. Yr Ail Fargen Newydd.
10. Ymfudo ac Allfudo.
11. Protest ac Anfodlonrwydd.
12. Gwleidyddiaeth Adain Chwith.
13. Ffasgaeth yn ystod y Tridegau.
14. Gwleidyddiaeth y Brif Ffrwd yn ystod y Dirwasgiad.
15. Llafur yn ystod y Dirwasgiad.
16. Y Berthynas rhwng y Rhywiau.
17. Diwylliant a'r Celfyddydau yn y Dirwasgiad.
18. Rhyfel ac Adfer.

Semianrau
1. Profiad o Ddiweithdra
2. Ymatebion swyddogol i Ddiweithdra
3. Beirniaid y Llywodraethau
4. Protest neu Ddifaterwch?
5. Perthnasau cymdeithasol yn ystod y Dirwasgiad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad
Rhifedd N/A
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4