Module Information

Cod y Modiwl
GW12620
Teitl y Modiwl
Y Tu ôl i'r Penawdau
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 11 x Darlithoedd 1 Awr
Gweithdy 10 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Erthygl Safbwynt 1 x 750 gair  25%
Asesiad Ailsefyll Llyfryddiaeth wedi'i hanodi 1 x 750 gair  25%
Asesiad Ailsefyll Papur gwybodaeth am benawdau 1 x 1,500 gair  50%
Asesiad Semester Erthygl Safbwynt 1 x 750 gair  OR two (2) Opinion Articles (750 words each)  25%
Asesiad Semester Llyfryddiaeth wedi'i hanodi 1 x 750 gair  25%
Asesiad Semester Papur gwybodaeth am benawdau 1 x 1,500 gair  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod ac esbonio goblygiadau digwyddiadau diweddar yn y byd o safbwynt gwleidyddol ryngwladol ar sail adroddiadau amdanynt yn y cyfryngau.

Dangos gwybodaeth empiraidd am ystod o faterion sy’n datblygu a/neu sy’n digwydd dro ar ôl tro ac sy’n berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol.

Adnabod ac esbonio cryfderau a gwendidau adroddiadau yn y cyfryngau ac erthyglau safbwynt, o ran eu cynnwys a’u rhesymeg.

Dadansoddi a thrafod yn feirniadol y rhagdybiaethau sydd wrth wraidd adroddiadau a safbwyntiau sy’n ymddangos yn y cyfryngau.

Dangos gwybodaeth sgiliau astudio o ran confensiynau cyfeirnodi, cyfeirio ac aralleirio.

Cynnwys

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno i raglen ddysgu’r Adran brofiad mewn amser go iawn o’r berthynas rhwng digwyddiadau rhyngwladol, adroddiadau yn y cyfryngau, ac astudiaethau academaidd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol. Mae’r modiwl yn tynnu ar amryw o wahanol safbwyntiau o’r tu mewn i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thu hwnt, wrth i gynnwys sy’n ymddangos yn y cyfryngau gael ei asesu’n feirniadol gan arbenigwyr ym maes astudiaethau newyddiaduraeth, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, llywodraethiant byd-eang a moeseg fyd-eang.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i adfyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiadau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn. Mae'r cwricwlwm yn unigryw oherwydd mae’n dibynnu ar ddigwyddiadau rhyngwladol sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau. Mae'r pwyslais ar newyddion a safbwyntiau sy’n dod i'r amlwg o wythnos i wythnos yn ystod y semester, ac mae'r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau fel ymchwilwyr, meddylwyr annibynnol, cyflwynwyr ac ysgrifenwyr, ac ar yr un pryd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r cyfryngau. Dangosir yn y darlithoedd sut y mae amryw o wahanol ymchwilwyr academaidd a deallusion cyhoeddus yn ymateb i ddigwyddiadau rhyngwladol, a cheir gweithdai dwys i helpu i ddatblygu'r sgiliau a asesir yn y modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno’u syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sut i gyflwyno’u dadleuon yn y ffordd fwyaf effeithiol. Byddant yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio’r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio’r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol yn y ffordd orau. Byddant yn dysgu sut i ysgrifennu a siarad yn glir a dweud yn ddiamwys beth yw eu nodau a’u hamcanion. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy’n berthnasol i bwnc trafod, byrdwn ac amcanion eu dadl neu drafodaeth. Cynhelir y seminarau mewn grwpiau lle dysgir yn bennaf drwy drafod ar lafar a chyflwyniadau, a bydd y pwyslais drwy gydol y modiwl ar gyfranogi a chyfathrebu. Hwylusir hyn drwy chwarae rôl mewn grwpiau lle bydd timau’n cymryd rhan yn y seminar a thu hwnt i hynny.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bwriedir i’r modiwl hwn fireinio a phrofi sgiliau a fydd yn ddefnyddiol i’r myfyrwyr yn eu gyrfaoedd, yn enwedig siarad â grwpiau bach, gwrando, meddwl ac ymateb i’r hyn y mae eraill yn ei ddweud. Yn ogystal, mae’r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno, sy’n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir y myfyrwyr bob amser i adfyfyrio ar eu perfformiad ac ystyried gwersi i’w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau’n un o nodau canolog y modiwl; bydd y myfyrwyr yn cyflwyno amryw o asesiadau sgiliau astudio, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Caiff gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu safbwyntiau gwahanol; trefnu data a llunio ateb i’r broblem; rhesymu; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu materion yn broblemau llai.
Gwaith Tim Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydlynydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’u cyflwyniadau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae’r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth ond mewn cyd-destun lle mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydlynydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Disgwylir i’r myfyrwyr wella’u dysgu a’u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a gweithio ar eu liwt eu hunain, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a’u cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu, ymarfer a phrofi amryw helaeth o sgiliau pwnc-benodol sydd o gymorth iddynt i ddeall, cysyniadoli a chloriannu enghreifftiau a syniadau yn ystod y modiwl. Ymhlith y sgiliau pwnc-benodol hyn mae: • Casglu a deall ystod eang o ddata sy’n gysylltiedig â’r modiwl • Pwyso a mesur safbwyntiau cyferbyniol yn feirniadol • Defnyddio’r confensiynau ysgrifennu a chyfeirnodi sy’n cael eu harfer yn yr Adran yn hyderus.
Sgiliau ymchwil Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o’r gwaith a asesir. Bydd hyn yn golygu defnyddio amryw o ffynonellau gwybodaeth, yn enwedig ffynonellau cyfoes yn y cyfryngau
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i’r myfyrwyr gyflwyno’u gwaith wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau, ar-lein drwy Blackboard. Hefyd, anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am wybodaeth o ffynonellau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4