Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 22 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Prosiect ymchwil ar agwedd o gyfraith Cymru o ddewis | 50% |
Arholiad Semester | Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Prosiect ymchwil ar agwedd o gyfraith Cymru o ddewis Ail sefyll y rhan a fethir | 50% |
Arholiad Ailsefyll | Trafodaeth lafar ar ffurf viva fechan ar agweddau o gyfraith Cymru Ail sefyll y rhan a fethir | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
* Trafod ffynhonellau cyfraith Cymru ac egluro gwahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr;
* Arfarnu’n feirniadol mesurau llwyddiant cyfreithiau a pholisiau;
* Trafod cyfreithiau a pholisiau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg;
* Cynnal gwaith ymchwil i mewn agwedd benodol o gyfraith Cymru a’i gyflwyno yn ysgrifenedig;
* Trafod ar lafar ar agwedd o gyfraith Cymru.
Nod
- Bydd yn cymryd lle 1 modiwl a ddiddymir yn llwyr, a 2 fodiwl lle gostyngir y ddarpariaeth Gymraeg, ac felly yn cadw at ymrwymiad y brifysgol I beidio a lleihau ar y ddarpariaeth Gymraeg.
- Bydd yn fodiwl a fydd yn atyniadol i fyfyrwyr cyfraith yn ogystal a myfyrwyr sydd yn astudio troseddeg, gwleidyddiaeth a Chymraeg proffesiynol.
- Bydd yn datblygu dealltwriaeth o sefyllfa gyfreithiol Cymru, ac agweddau unigryw ar gyfraith Cymru. Y mae Comisiwn y Gyfraith a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a diddordeb arbennig mewn recriwtio myfyrwyr o Gymru sydd ag arbenigedd mewn cyfraith Cymru. Ein nod felly yw i ddatblygu’r dealltwriath hwnnw.
Disgrifiad cryno
Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfaith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.
Cynnwys
- Cymru – y setliad datganoli
- Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
- Addysg yng Nghymru
- Cartrefi a thai
- Dwyieithrwydd cyfreithiol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau. |
Datrys Problemau | Canfod a dewis deunyddiau perthnasol. |
Gwaith Tim | Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymateb i sylwadau ac adborth. |
Rhifedd | Peth gwaith efo ystadegau. |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o’r gyfraith. Cyflwyno dadl. Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar. |
Sgiliau ymchwil | Prosiect ymchwil a gwaith paratoi. |
Technoleg Gwybodaeth | Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6