Module Information

Module Identifier
GA20100
Module Title
Tiwtorial Gwyddor Amgylchedd yr Ail Flwyddyn
Academic Year
2017/2018
Co-ordinator
Semester
Semester 1 (Taught over 2 semesters)
Mutually Exclusive
Mutually Exclusive
Mutually Exclusive

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Tutorial 11 x 2 Hour Tutorials
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  1500 gair  30%
Semester Assessment Adolygiad llenyddiaeth  1500 gair  30%
Semester Assessment Cynnig traethawd hir/prosiect  1800 gair  40%
Supplementary Assessment Traethawd  1500 gair  30%
Supplementary Assessment Adolygiad llenyddiaeth  1500 gair  30%
Supplementary Assessment Cynnig traethawd hir/prosiect  1800 gair  40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Ysgrifennu mewn arddull academaidd.

2. Trafod llenyddiaeth gyfoes ym maes gwyddor amgylchedd yn feirniadol.

3. Dangos gwybodaeth o ddatblygiad Gwyddor Amgylchedd dros y degawdau diwethaf.

4. Trafod a dadansoddi’r defnydd o safbwyntiau damcaniaethol gwahanol o fewn Gwyddor Amgylchedd.

5. Adnabod problem neu bwnc ymchwil a dylunio strategaeth ymchwil briodol.

6. Dangos gwerthfawrogiad o natur a defnydd priodol o wahanol strategaethau methodolegol mewn Gwyddor Amgylchedd.

7. Dangos ymwybyddiaeth o faterion moesegol mewn ymchwil Gwyddor Amgylchedd.

Brief description

Dylunnir y modiwl i gefnogi myfyrwyr sy’n sil

Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n dilyn cynlluniau gradd Gwyddor Amgylchedd. Mae'n gosod sail ar gyfer cyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.

Y mae iddo bedwar nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell o gyswllt clos, fe fydd yn ymdrin â phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, mae gan bob modiwl tiwtorial gwyddor amgylchedd maes llafur academaidd ei hun. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar themâu cysylltiedig a rheda drwy gydol y rhaglen Gwyddor Amgylchedd. Yn drydydd, bydd yn datblygu sgiliau ymchwil drwy adnabod blychau llunio cwestiynau ymchwil, a dylunio strategaethau ymchwil. Yn olaf, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithiol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.

Mae Tiwtorial yr Ail Flwyddyn yn ymdrin â’r sgiliau astudio canlynol: Gwaith prosiect/traethawd hir [gan gynnwys dylunio /llunio problem ymchwil; ffynonellau data a thechnegau; llunio llyfryddiaeth; technegau ysgrifennu adroddiadau] Cyflwyniadau llafar Cyngor a hunanasesu gyrfaol Damcaniaethau daearyddol: gofodol/integredig/ecolegol/systemig/gwerthusol

Asesir y modiwl drwy dair elfen: traethawd (1,500 gair, 30%); adolygiad llenyddiaeth (1,500 gair, 30%); a chynnig traethawd hir/prosiect cydanrhydedd (1,800 gair, 40%).

Content

Cyfuna’r modiwl gyfrifoldebau bugeiliol a datblygiad personol y tiwtor personol gyda sgiliau astudio sy’n allweddol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch. Mae’r deg sesiwn (sy’n cynnwys sesiynau tiwtor personol) yn ystyried y themâu canlynol:
• Crynhoi a chyfosod llenyddiaeth academaidd;
• Llunio a chefnogi dadleuon;
• Dadleuon a seiliau deallusol i wyddor amgylchedd;
• Technegau adolygu;
• Llunio Cwestiynau ymchwil
• Moeseg a diogelwch mewn gwaith maes;
• Technegau cyflwyno.

Caniateir trafod agweddau eraill o ddatblygiad personol - megis nodi gwasanaethau prifysgol a lleol, disgwyliadau a heriau bywyd prifysgol, rheolaeth amser ac adnoddau; myfyrio ar berfformiad academaidd, a chyflogadwyedd a dyheadau gyrfa - yn y sesiynau tiwtor personol penodedig.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Heb ei asesu’n uniongyrchol yn benodol yn y modiwl
Communication Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig mewn cywair academaidd priodol.
Improving own Learning and Performance Anogir myfyrwyr i ymateb i adborth; asesa rhan o’r aseiniad gyntaf sut ymatebwyd i adborth.
Information Technology Gofynnir i fyfyrwyr i ddefnyddio technoleg prosesu geiriau ar gyfer y gwaith cwrs.
Personal Development and Career planning Mae materion cyflogadwyedd a datblygiad wedi eu hintegreiddio i’r modiwl drwy’r sesiynau tiwtora personol.
Problem solving Gofynnir i fyfyrwyr adnabod problem ymchwil ac i lunio strategaeth ymchwil
Research skills Gofynnir i fyfyrwyr i ymchwilio a gwerthuso a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer y gwaith cwrs
Subject Specific Skills Targeda’r tair aseiniad dadleuon a themâu allweddol mewn daearyddiaeth.
Team work Er nad yw wedi’i hasesu, bydd cyfleoedd i fyfyrwyr weithio fel tîm

Notes

This module is at CQFW Level 5