Module Information

Cod y Modiwl
FG25520
Teitl y Modiwl
Ffiseg Arbrofol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
PH15720 neu FG15720; PH15510 neu FG15510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 44 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr
Darlith 1 x Darlith 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 2 x Adroddiad unigol  60%
Asesiad Semester 2 x Cyflwyniad grwp  20%
Asesiad Semester 2 x Adolygiad llenyddiaeth grwp  20%
Asesiad Ailsefyll Ail gyflwyno cydran a fethwyd  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio papurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i waith arbrofol a chyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd tebyg.
2. Cynllunio a chynnal arbrawf gydag ond ychydig o fewnbwn gan staff addysgu.
3. Dadansoddi data a gwerthuso arbrofion gan ddefnyddio sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn gynharach yn ystod y cwrs.
4. Gweithio mewn grŵp i gyfathrebu gwybodaeth am arbrawf a'r canlyniadau mewn cyflwyniad llafar.
5. Ysgrifennu adroddiad unigol ar arbrawf.

Nod

Mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu sgiliau dadansoddi ac arbrofol angenrheidiol ar gyfer cyflawni arbrofion ffiseg o safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal a chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol.

Disgrifiad cryno

Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni dau arbrawf yn ystod y semester. Argyfer pob modwl, bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump a bydd angen iddynt ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio'r offer sydd ar gael ac yna ddatblygu strategaeth arbrofol a dadansoddi'r canlyniadau. Caiff pob arbrawf ei asesu mewn tair ffordd; yn gyntaf bydd y grwp yn cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail bydd y grwp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Cyflwynir yr adroddiad yn unigol.

Cynnwys

Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrofion, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. Mewn cyferbyniad ag yn y flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn rhan ganolog o'r modiwl. Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o datblygiad gyrfa myfyriwr.
Darperir goruchwyliaeth neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn y Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt roi cyflwyniad llafar yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Cydran bwysig yw'r cyflwyniad grŵp o'r canlyniadau arbrofol i'w cyd-fyfyrwyr. Bydd lyrhain yn datblygu sgiliau cyflwyno llafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig.
Datrys Problemau Mewn cyferbyniad i'r flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4 neu 5. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio a chyflawni arbrofion gyda chymorth gan staff. Y cymhelliad fodd bynnag yw i'r myfyrwyr arwain yr arbrofion a gweithio fel tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad gyrfa myfyriwr.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff y canlyniadau o'r chwiliadau eu cyflwyno mewn adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddylwedd llyfryddiaeth gyffelyb.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5