Module Information

Cod y Modiwl
FG14010
Teitl y Modiwl
Dynameg Glasurol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
MP14010 a MT14010
Rhagofynion
Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Tiwtorial 6 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Aseiniadau gwaith cwrs  30%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Mynegi a dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol mewn dynameg glasurol.
2. Galw i gof theori perthnasol i fudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu.
3. Defnyddio technegau mathemategol addas i fudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu.
4. Datrys problemau rhifiadol sydd wedi'u diffinio'n dda ar gyfer mudiant trawsfudol, mudiant cylchdro ac osgiliadu, a dehongli'r canlyniadau yng nghyd-destun y ffiseg.
5. Llunio hafaliadau mathemategol wedi'u diffinio'n dda i fynegi problemau mewn dynameg glasurol ac egluro'r defnydd o'r hafaliadau yng nghyd-destun y sefyllfa a roir.

Nod

Mae'r modiwl yn datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o egwyddorion a thechnegau dynameg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau. Darperir enghreifftiau rhifiadol i'r myfyriwr ymarfer. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd blwyddyn-gyntaf cynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg a Mathemateg, ac mae'n paratoi'r myfyriwr ar gyfer defnyddio'r testunau mewn astudiaethau uwch ym modiwlau Rhan 2.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad i theori glasurol dynameg. Mae tair prif ran i'r modiwl, yn dilyn crynodeb fer o ddulliau trin fectorau. Mae'r rhan gynaf yn ystyried cinemateg glasurol, Deddfau Mudiant Newton, momentwm, grymoedd, gwaith ac egni mecanyddol. Mae'r ail ran yn cyflwyno mudiant cylchdroi ac yn dangos sut i'w ystyried mewn modd tebyg i fudiant trawsfudol. Cyflwynir theori osgiliadau yn y drydedd rhan, yn cynnwys yr osgiliadur harmonig clasurol, cyseiniant ac osgiliaduron cypledig.

Cynnwys

Fectorau (dwyn i gof)
Mesurau fector a sgalar. Fector safle. Fectorau uned orthogonal.
Trin fectorau: adio, cydrannu, lluosymiau sgalar a fector.

MUDIANT TRAWSFUDOL
1. Cinemateg gronyn: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
2. Deddfau Mudiant Newton: momentwm, grymoedd (yn cynnwys pwysau, normal, ffrithiant, tensiwn, elastig, llusgiad), mudiant mewn cylch.
3. Gwaith, Egni a Phwer: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, grym cadwrol, pwer, egni potensial (disgyrchol a sbring), cadwraeth egni mecanyddol.
4. Craidd mas: system o ronynnau, system a dwysedd unffurf.
5. Gwrthdrawiadau: cadwraeth momentwm, cyfernod adfer.

MUDIANT CYLCHDROI
1. Gwrthrychau solid yn cylchdroi: cyflymder onglog, cyflymiad onglog, moment inertia, momentwm onglog, trorym.
2. Dulliau paralel o drin mudiant trawsfudol a mudiant cylchdroi.

OSGILIADAU
1. Mudiant Harmonig Syml: cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad, egni.
2. Mudiant Harmonig Syml mewn systemau mecanyddol.
3. Osgiliadau gwanychol a gorfodol, cyseiniant.
4. Osgiliadau cypledig: moddau normal.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl a chant eu hasesu drwy aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir addysgu hunan-gyfeiriedig a gwella perfformiad drwy daflenni enghreifftiau a phecyn gwaith cartref electronig. Darperir datrysiadau i'r taflenni enghreifftiau. Gosodir enghreifftiau ychwanegol ar Blackboard.
Rhifedd Mae problemau rhifiadol ar daflenni enghreifftiau a'r papur arholiad yn datblygu sgiliau rhifedd.
Sgiliau pwnc penodol Mae dynameg yn destun craidd mewn Ffiseg a Mathemateg.
Sgiliau ymchwil Bydd darllen cyfeiriedig ac enghreifftiau ar Blackboard yn galluogi'r myfyriwr i ymchwilio testunau y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4