Module Information

Cod y Modiwl
DA31620
Teitl y Modiwl
Adnoddau Dwr a Hydroleg Bydol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
GG31620
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 5 x Darlithoedd 3 Awr
Darlith 6 x Darlithoedd 2 Awr
Taith Maes 1 x Taith Faes 5 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad 2 awr o hyd  50%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   50%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno?r gydran o?r Asesiad Gwaith Cwrs a fethwyd.  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad 10 munud o hyd  10%
Asesiad Semester Adroddiad gwaith cwrs 3,000 o eiriau o hyd  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. gwerthfawrogi'r problemau a'r datrysiadau posib ar gyfer y prinder dwr bydol a rhanbarthol.
  2. deall a meddu ar sail ar gyfer ymchwil pellach i fewn i natur a rol prosesau hydrolegol sydd yn gweithredu yn yr amgylchedd daearol.
  3. llawn ddefnyddio'r ystod o ffynhonellau electronig modern o wybodaeth er mwyn ymchwilio i weithgareddau'r sefydliadau mawr rhyngwladol sydd yn gysylltiedig a ffynhonellau dwr byd-eang.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cychwyn trwy edrych ar y sialesau, y patrymau a'r adnoddau sydd ar gael ar raddfa fydol. Dilynir hyn gan ddadansoddiad dwys o'r ddealltwriaeth bresennol o brosesau hydrolegol ar raddfa'r basn afon, o golledion anweddu I lwybrau dr mewn pridd a chreigiau, gan gloi gyda chyflwyniad i dduliau o fodelu hydolegol. Mae perthnasedd y prosesau yma i broblemau yn y byd go iawn yn cael ei bwysleisio ar hyd yr amser e.e. effeithiau newid llystyfiant a threfoli, ac effaith llwybrau dwr ar lygredd.

Mae'r modiwl yn gorffen gyda darn ar reoli adnoddau gan son am ddylunio systemau rheoli adnoddau dwr, llwyddiant a methiannau argaeau mawr, delio gyda llifogydd a sychder, gwarchodaeth amgylcheddol a iachau, hydrowleidyddiaeth, terfysgaeth rhyngwladol, bygythiad corfforaethau i allu sicrhau rhannu adnoddau'n deg, ac effeithiau rhagweladwy newid hinsawdd. Mae'r darn yn cloi gyda asesiad o rinweddau cymharol ffynhonellau newydd o ddwr o gymharu a dulliau o arbed dwr.

Mae addysgu yn cynnwys sesiynau ymarferol cyfrifiadurol a teithiau maes ar gyfer pob un o'r prif adrannau ac ymchwil a chyflwyniadau grwp ar faterion allweddol.

Cynnwys

1) Cynnwys cyffredinol

  • Y materion cyffredinol - yyr 'argyfwng dwr', effeithiau amgylcheddol, rol astudiaethau proses, a theori gwyddonol ynglyn a sicrhau echdynnu a gwarchodaeth effeithiol.
  • Cromlin angen - fynhonellau o bwysau cynyddol ar adnoddau: domestig a municipal, diwydiannol, amaethyddol, a dwr gwastraff.
  • Adoddau bydol - y gylchred hydrolegol, storio, dosbarthiad a chyfyngiadau.
  • Asesu adnoddau a monitor prosesau, o orsafoedd arwynebol i loerennau a radar tywydd.
2) Prosesau amgylcheddol:

  • Anweddu, evapodransbiryddu, a cholledion rhyng-gipiad.
  • Effeithiau newid gorchudd llystyfiant ar gyfaint dwr.
  • Llif trostir.
  • Effeithiau trefol ar brosesau hydrolegol.
  • Llwybrau dwr mewn pridd a chreigiau - ymdreiddio, lleithder pridd, llif trwodd, llif mewn pibelli, dwr daear.
  • Gorchudd eira, prosesau tawddeira, rhagfynegi llif trostir tawddeira.
  • Modelu llif - modelu blwchu du i fodelu synthetig, a modelu ffisegol.
  • Taith Maes : Dalgylchoedd arbrofol (CEH Institute of Hydrology), Pumlumon
3) Rheoli adnoddau

  • Dylunio systemau rheoli adnoddau dwr, hydroleg gweithredol, rheoli adnoddau dwr integreiddiedig, trosglwyddiadau strategol ac argaeau mawr: llwyddiannau a methiannau.
  • Gwarchodaeth a iachau amgylcheddol - llygredd a rheolaeth safon dwr: methiannau a rhaglenni llwyddiannus.
  • Hydrowleidyddiaeth, 'rhyfeloedd dwr', a therfysgaeth amgylcheddol (cyflwyniadau dwr). Preifateiddio, commercialization, a globaleiddio, - 'y bygythiad corfforaethol'
  • Bygythiad newid hinsawdd - newid prosesau ac adnoddau, dulliau o amcangyfrif a rheolaeth.
  • Ffynhonellau newydd vs cadwraeth adnoddau - dadhalwyno, defnyddio adnoddau ia ac eira, cynhyrchu glaw vs metering, trwsio pibelli ayb sy'n gollwng, rheoli colledion anweddu, a dylunio trawsgludo rhyng - ddalgylvhol (cyflwyniadau grwp)
  • Taith maes: Datblygiad adnoddau dwr, ac effaith amgylcheddol yng nghanolbarth Cymru, - Afon Rheidol, Clywedog ac Elan (1 diwrnod).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyflwyniadau seminar grwp a thrafodaeth
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu diddordebau a sgiliau sydd yn ymwneud a gyrfaoedd
Datrys Problemau Adnabod ffactorau a allay ddylanwadu ar ddatrysiadau posib. Dadansoddi manteision ac anfanteision datrysiadau gwahanol.
Gwaith Tim Cyflwyniadau grwp a thrafodaeth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ysgrifennu prosiect fel traethawd estynedig
Rhifedd Na
Sgiliau pwnc penodol Datblygir adnabyddiaeth o offer penodol a dylunio ymchwil, dadansoddiadau o ddigwyddiadau eithafol, ac archifau data.
Sgiliau ymchwil Cyflwyniadau grwp a thraethodau estynedig unigol
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio archifau data ar y we, a dadansoddi gwaith sefydliadau amrywiol sydd yn ymwneud a dwr. Asesir drwy¿r traethawd estynedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6