Module Information

Cod y Modiwl
DA28700
Teitl y Modiwl
Lleoli Gwleidyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
GG28720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Taith Maes 1 x Taith Faes 2 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
Darlith 7 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Semester 1 Arholiad QMP  Semester 1: Arholiad aml-ddewis ar-lein, awr o hyd (50 cwestiwn)  20%
Arholiad Semester 2 Awr   Semester 1: Arholiad 2 awwr  Semester 1: Arholiad 2 awr gan ateb dau gwestiwn allan o bump (papur wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw).  50%
Asesiad Semester Traethawd Semester 2  Semester 2: Traethawd 2,000 o eiriau lle mae myfyrwyr yn trafod y ffyrdd mae syniadau yn naearyddiaeth wleidyddol wedi eu cymhwyso ir byd go-iawn.  30%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Supplementary Exam - QMP online  Bydd rhaid i fyfyrwyr ail-eistedd neu ail-gyflwyno elfennaur modiwl wnaethant fethu (gyda gwahanol gwestiynau). Bydd marciaur elfennau sydd wedi eu pasion cael eu trosglwyddo i ail-gyfrif marc y modiwl wedi ei ail-eistedd.  Online computer exam  20%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Supplementary Exam - 2 hour exam  50%
Asesiad Ailsefyll Resubmission of failed assignment  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod, disgrifio, a dadansoddi'n feirniadol dadleuon cyfoes ym maes daearyddiaeth wleidyddol.

Archwilio'n feirniadol ystod o ffynonellau a thestunau o ddiddordeb i ddaearyddwyr gwleidyddol, o destunau academaidd i ddogfennau polisi.

Arddangos tystiolaeth o ddarllen mewn dyfnder ym maes daearyddiaeth wleidyddol.

Datblygu dadl ysgrifenedig groyw mewn ffurf traethawd ar arwyddocad ymchwil academaidd mewn maes penodol o ddaearyddiaeth wleidyddol.

Arddangos dealltwriaeth o'r gwahanol ffyrdd y mae syniadau a dadleuon tu fewn i ddaearyddiaeth wleidyddol wedi mynd i'r afael a materion yn y 'byd go-iawn'.

Disgrifiad cryno

Darpara 'Lleoli Gwleidyddiaeth' myfyrwyr Lefel 2 a gwybodaeth allweddol gynhwysfawr ym maes pwysig Daearyddiaeth Wleidyddol. Gan dynnu'n benodol ar ymchwil aelodau tu mewn a thu allan i grwp ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd, bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddadleuon academaidd allweddol y maes, ynghyd a dangos eu cymhwysiad i sefyllfaoedd yn y 'byd go-iawn' drwy ddefnydd polisi ac astudiaethau achos eraill. Fel ffordd o gyflwyno materion cyflogadwyedd, fe fyddwn yn trefnu taith maes i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, a fydd yn caniatau i fyfyrwyr ddysgu sut mae daearyddwyr ac eraill yn defnyddio eu sgiliau academaidd i ddatrys problemau yn y 'byd go-iawn'. Dyluniwyd y modiwl i ddatblygu sgiliau a gallu myfyrwyr mewn ffordd flaengar, drwy'r defnydd o wahanol fathau o asesu ar wahanol gyfnodau o'r modiwl, gan gynnwys arholiad amlddewis, arholiad dwy awr yn seiliedig ar draethodau (papur wedi ei gyhoeddi ymlaen llaw), a thraethawd 2,000 o eiriau yn seiliedig ar astudiaeth achos.

Mae'r rhan gyntaf yn darparu gorolwg o'r gwahanol safbwyntiau sydd gan ddaearyddwyr o faes daearyddiaeth wleidyddol. Mae'r ddwy ddarlith gyntaf yn ffocysu ar y ddau brif safbwynt damcaniaethol sy'n dominyddu'r maes ar hyn o bryd, tra mae'r ddwy ddarlith nesaf yn ystyried y gwahanol ffyrdd mae daearyddwyr ac eraill wedi ceisio arfer Daearyddiaeth Wleidyddol yn y byd 'go-iawn'. Mae gwybodaeth ffeithiol y myfyrwyr o'r themau hyn yn cael eu profi yn y sesiwn olaf drwy ffurf arholiad aml-ddewis un awr, gan ddefnyddio Questionmark Perception (50 cwestiwn).

Mae'r ail ran - Lleoli Daearyddiaeth Wleidyddol - yn ystyried gwahanol themau sy'n cael eu hystyried o fewn Daearyddiaeth Wleidyddol gyfoes. Fel modd o bwysleisio gwerth safbwynt daearyddol i ddeall prosesau gwleidyddol, mae'r darlithoedd yn ffocysu ar leoedd penodol sy'n nodweddiadol o ystyriaethau gwleidyddol ehangach. Mae'r bedair ddarlith gyntaf (wedi eu haddysgu yn ystod ail hanner semester 1) yn archwilio rhai o'r themau mwy confensiynol sydd wedi cael eu hastudio o fewn Daearyddiaeth Wleidyddol, gan gynnwys trefedigaethau, daearwleidyddiaeth, y wladwriaeth a chenedlaetholdeb. Profir gallu myfyrwyr i ddeall ac i ddadansoddi'r pum thema cyntaf yn feirniadol drwy arholiad dwy awr, gyda myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn traethawd. Cyhoeddir y papur ar ddiwedd tymor y Nadolig. Cynhelir ail hanner Lleoli Daearyddiaeth Wleidyddol yn yn ystod pum wythnos cyntaf semester 2, ac archwilia themau mwy arloesol sydd yn derbyn sylw cynyddol yn Naearyddiaeth Wleidyddol, gan gynnwys dinasyddiaeth, gofod cyhoeddus, rhywedd a'r corff, gwleidyddiaeth perfformiadau, gwleidyddiaeth ecolegol, a globaleiddio a'r seibrofod. Profir gallu myfyrwyr i ddeall ac i ddadansoddi'r ail set o bum thema yn feirniadol drwy draethawd 2,000 o eiriau, sy'n trafod un o'r pum thema drwy astudiaeth achos.

Cynnwys

Ymdrin a Daearyddiaeth Wleidyddol (Semester 1)

.1. Cyflwyniad: lleoli gwleidyddiaeth (wythnos 1).
.2. Gwleidyddiaeth: mapio safbwyntiau Marcsaidd i Ddaearyddiaeth Wleidyddol (wythnos 2).
.3. Grym: olrhain triniaethau strategol-perthynol o Ddaearyddiaeth Wleidyddol (wythnos 3).
.4. Polisi Cyhoeddus: Daearyddiaeth Wleidyddol y tu mewn i fframweithiau'r wladwriaeth (wythnos 4).
.5. Protest: democratiaeth, protestio a milwrio (wythnos 5).

ARHOLIAD AML-DDEWIS (wythnos 6).

Lleoli Daearyddiaeth Wleidyddol (semestrau 1 a 2)

.6. Y drefedigaeth: daearyddiaeth wleidyddol a gofodau trefedigaetholdeb (wythnos 7).
.7. Y gynhadledd: Daearwleidyddiaeth, Daearwleidyddiaeth Gritigol, a grym y ddelwedd (wythnos 8).
.8. Y ffens: gwladwriaethau fel endidau tiriogaethol (wythnos 9).
.9. Y Maes pared: lle, gwleidyddiaeth, a chenedlaetholdeb (wythnos 10).

ARHOLIADAU SEMESTER 1 (arholiad dwy awr)

.10. Yr orsaf bleidleisio: daearyddiaethau cyrchu dinasyddion (wythnos 1).
.11. Y ganolfan siopa: gwleidyddiaeth preifateiddio gofod cyhoeddus (wythnos 2)

TAITH MAES I SWYDDFEYDD LLYWODRAETH CYMRU (wythnos 3).

.12. Y corff: rhywedd a gwleidyddiaeth (wythnos 4).
.13. Y theatr: yr olygfa, perfformiad, a gwleidyddiaeth (wythnos 5).
.14. Y gloddfa: daearyddiaethau adnoddau a gwleidyddiaeth ecolegol (wythnos 6).
.15. Y we: globaleiddio a gwleidyddiaeth seibrofod (wythnos 7).

Traethawd astudiaeth achos 2,000 gair

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig wrth iddynt ysgrifennu eu traethodau astudiaeth achos ac wrth gwblhau'r arholiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a hefyd i bwysleisio materion cyflogadwyedd, yn benodol drwy'r daith maes. Bydd y traethawd astudiaeth achos yn profi gallu myfyrwyr i drafod natur gymhwysol daearyddiaeth wleidyddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau'r myfyrwyr mewn sawl ffordd. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau, a bydd rhaid iddynt gwblhau ymarferion datrys problemau bychain yn yr ystod darlithoedd. Bydd gofyn i'r myfyrwyr, hefyd, drafod problemau sy'n gysylltiedig â chynllunio ymchwil wrth iddynt gwblhau eu traethodau astudiaeth-achos.
Gwaith Tim Bydd y darlithoedd yn cynnwys ymarferion datrys-problemau yn y dosbarth, a fydd yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i feithrin sgiliau cyd-weithio ac i rannu syniadau gyda'r dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dyluniwyd strwythur y modiwl er mwyn darparu adborth cyson drwy gydol y flwyddyn academaidd, a dylai hwn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr i wella dysgu a pherfformiadau eu hunain.
Rhifedd Heb ei ddatblygu'n benodol yn y modiwl hwn.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y traethawd astudiaeth achos yn datblygu a phrofi gallu myfyrwyr i weld sut mae syniadau a dadleuon o ddaearyddiaeth wleidyddol wedi cael eu defnyddio gan unigolion, grwpiau, a mudiadau yn y 'byd go-iawn'.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio a syntheseiddio ystod o ffynonellau academaidd ac anacademaidd wrth gwblhau eu traethodau astudiaethau achos, ac wrth baratoi ar gyfer eu harholiadau ysgrifenedig.
Technoleg Gwybodaeth Gofynna'r traethawd astudiaeth-achos i fyfyrwyr ymchwilio'n annibynnol ar-lein. Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ehangu eu sgiliau ymchwil ac i ymarfer eu sgiliau TG wrth ysgrifennu'r traethawd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5