Module Information
Cod y Modiwl
DA22710
Teitl y Modiwl
Hanes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Mewn grw^p, llunio poster academaidd am y berthynas rhwng pobl ar amgylchedd yn neunydd empeiraidd syn berthnasol i ddarlithoedd 2-4. | 30% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar unigol ar y poster academaidd. | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad 2,500 o eiriau ar hanes amgylcheddol y cyfnod modern yn un ardal o Gymru. | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Llunio poster academaidd am y berthynas rhwng pobl ar amgylchedd yn neunydd empeiraidd syn berthnasol i ddarlithoedd 2-4. | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar unigol ar y poster academaidd. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwynor Adroddiad 2,500 o eiriau ar hanes amgylcheddol y cyfnod modern yn un ardal o Gymru. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth o beth yw hanes amgylcheddol.
Defnyddio enghreifftiau i drafod a gwerthuso'r prif themau o fewn hanes amgylcheddol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu eu gallu i ysgrifennu adroddiad ac i lunio hanes amgylcheddol ardal o Gymru.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw cyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o hanes amgylcheddol, sydd yn isadran gymharol newydd a chyffrous o 'Ddaearyddiaeth'. Trafodir y berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd dros amser, gan ystyried y prif themau o fewn hanes amgylcheddol, sef:
a) dylanwad ffactorau amgylcheddol ar hanes pobl;
b) y newidiadau fe'u hachoswyd gan weithredoedd pobl; ac
c) hanes y syniadaeth amgylcheddol.
a) dylanwad ffactorau amgylcheddol ar hanes pobl;
b) y newidiadau fe'u hachoswyd gan weithredoedd pobl; ac
c) hanes y syniadaeth amgylcheddol.
Cynnwys
Bydd deg sesiwn o ddwy awr yr un a fydd yn cyfuno elfen o ddarlithio, cyflwyniadau myfyrwyr a thrafodaethau seminar. Dyma strwythur y modiwl:
.1. Cyflwyniad: beth yw hanes amgylcheddol?
.2. Cynhanes a'r Hen fyd.
.3. Yr Oesoedd Canol.
.4. Y cyfnod modern cynnar, 1500-1750.
.5 Cyflywniadau myfyrwyr
.6-9. Y cyfnod modern
a) Y chwyldro diwydiannol: ynni ac adnoddau naturiol
b) Twf poblogaeth a'r amgylchedd
c) Amaethyddiaeth, fforestydd a dw^r
d) Naturiaethwyr a Chadwraeth
.10. Ymarfer Hanes Amgylcheddol
.1. Cyflwyniad: beth yw hanes amgylcheddol?
.2. Cynhanes a'r Hen fyd.
.3. Yr Oesoedd Canol.
.4. Y cyfnod modern cynnar, 1500-1750.
.5 Cyflywniadau myfyrwyr
.6-9. Y cyfnod modern
a) Y chwyldro diwydiannol: ynni ac adnoddau naturiol
b) Twf poblogaeth a'r amgylchedd
c) Amaethyddiaeth, fforestydd a dw^r
d) Naturiaethwyr a Chadwraeth
.10. Ymarfer Hanes Amgylcheddol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar a gwahanol ddulliau o ysgrifennu ar gyfer y cyflwyniad, y poster ac yr adroddiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y pwyslais cyson yn y modiwl ar gyflwyno gwybodaeth yn hyderus ar lafar, yn gryno mewn poster, ac mewn adroddiad proffesiynol. Bydd hyn o fudd i'r myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd. |
Datrys Problemau | Ni fydd hwn yn cael ei ddatblygu yn y modiwl ymhellach nag unrhyw broblemau gall godi yn sgil gwaith grwp a chynhyrchu poster. |
Gwaith Tim | Bydd y poster yn cael ei wneud fel grw^p. Anogir y myfyrwyr i gwblhau tasgau grw^p fel rhan o'r modiwl ond ni chaiff y medr hwn ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i'r myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu perfformiad eu hunain – yng nghyd-destun yr adroddiad, y poster a'r cyflwyniad llafar – ond ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Rhifedd | Bydd gwybodaeth rifyddol yn cael ei ddefnyddio yn y darlithoedd yn achlysurol ond ni chaiff y myfyrwyr eu hasesu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio ar gyfer yr adroddiad a dylunio'r poster er mwyn cyflwyno'u gwaith ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth lunio'r poster a'r adroddiad (gan gynnwys mapiau, o bosib). Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr adroddiad, y poster a'r cyflwyniad llafar. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5