Module Information

Cod y Modiwl
DA12810
Teitl y Modiwl
Byw gyda Risg
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 1 x Darlith 4 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad (1.5 awr)  Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau.  75%
Asesiad Semester Cyflwyniad  Cyflwyniad llafar unigol.  25%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad (1.5 awr)  Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau.  75%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  Cyflwyniad llafar unigol.  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

  1. Arddangos dealltwriaeth o'r syniad o risg a sut y gellir ei ddadansoddi o safbwynt daearyddol.
  2. Trin a thrafod enghreifftiau penodol o risg a'r ffyrdd mae'r ddynoliaeth wedi ceisio ymateb i'r rhain.
  3. Dadansoddi'r berthynas rhwng dealltwriaethau academaidd a pholisi o risg.
  4. Paratoi cyflwyniad llafar a fydd yn trafod esiampl benodol o risg daearyddol.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i gyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o fyw gyda risg. Beth yn union yw risg? Ble mae risg? Sut mae unigolion, gwladwriaethau a'r ddynoliaeth yn ymateg i risg? Trafodir sawl math o risg sydd yn berthnasol i'r byd cyfoes - rhai dynol, ffisegol a rhai sy'n cyfuno elfennau dynol a ffisegol. Wrth drafod risg, denir sylw at ddaearyddiaeth risg. Yn ogystal, canolbwyntir ar y ffyrdd ymarferol, e.e. ym maes polisi^au cyhoeddus, mae'r ddynoliaeth wedi ymateb i risg.

Cynnwys

Bydd deg sesiwn o ddwy awr yr un a fydd yn cyfuno elfen o ddarlithio, trafodaethau seminar, tasgau grw^p a'r defnydd o fideo. Dyma strwythur y modiwl:
  1. Cyflwyniad: beth yw risg?
  2. Y twll yn yr haen oso^n.
  3. Newid hinsawdd.
  4. Brwydro dros ddw^r.
  5. Creu cyflenwadau bwyd diogel.
  6. Dygymod a^ thrychinebau 'naturiol'.
  7. Natur o dan fygythiad.
  8. Iechyd ac afiechyd.
  9. Creu byd 'diogel'.
  10. Heriau technoleg.
  11. Cyflwyniadau unigol gan y myfyrwyr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad a'r cyflwyniad unigol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y pwyslais cyson yn y modiwl ar gyd-destunau polisi y syniad o risg o fudd i'r myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd.
Datrys Problemau Ni fydd hwn yn cael ei ddatblygu yn y modiwl.
Gwaith Tim Anogir y myfyrwyr i gwblhau tasgiau grw^p fel rhan o'r modiwl ond ni chaiff y medr hwn ei asesu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd angen i'r myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu perfformiad eu hunain - yng nghyd-destun yr arholiad a'r cyflwyniad llafar - ond ni asesir hyn yn ffurfiol.
Rhifedd Bydd gwybodaeth rifyddol yn cael ei ddefnyddio yn y darltithoedd yn gyson ond ni chaiff y myfyrwyr eu hasesu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon.
Sgiliau pwnc penodol Ni ddatblygir y rhain fel rhan o'r modiwl.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio ar gyfer y cyflwyniad llafar ac ar gyfer yr arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar (e.e. Powerpoint). Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr arholiad a'r cyflwyniad llafar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4