Module Information
Cod y Modiwl
DA10910
Teitl y Modiwl
Methodoleg Maes Amgylcheddol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 2 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 2 x Seminarau 2 Awr |
Taith Maes | 1 x Taith Faes 4 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar grwp. Yn seiliedig ar un o'r diwrnodau maes. | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad 1,500 gair ar waith diwrnod 1. | 45% |
Asesiad Semester | Poster academaidd maint A0 ar waith diwrnod 2. | 45% |
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll elfennau a fethwyd. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
- Trafod cyfaddasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy'n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir;
* Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes;
*Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes;
* Deall, dehongli a gwerthuso data maes;
* Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnydd tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnydd tir.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw:
1.Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol)
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.
1.Cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir.
2. Cynnig profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth ddaearyddol, amgylcheddol ac o systemau defnydd tir.
3. Rhoi hyfforddiant mewn dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
4. Meithrin dealltwriaeth o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd-destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol)
5. Rhoi profiad o gyflwyno data ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cynnwys
Dysgir y modiwl ar y cyd a staff o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe. Dysgir myfyrwyr o'r ddau sefydliad hyn hefyd ar y modiwl. Dysgir y modiwl ar un penwythnos; naill ai yn Aberystwyth, Abertawe neu Bangor, gan gynnwys amrywiaeth o themau o ddaearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth ddynol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu data maes yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy drafodaethau grwp, gwaith cwrs a chyflwyniad llafar. |
Datrys Problemau | Wedi'i ddatblygu drwy gyflawni'r gwaith maes. |
Gwaith Tim | Wedi'i ddatblygu drwy prosiectau gwaith maes ac wrth baratoi a’r weithred o gyflwyno ar lafar mewn grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gadw nodiadau maes eu hun, paratoi cyflwyniad llafar a chyflwyno darnau gwaith cwrs unigol |
Rhifedd | Pan fo'r angen, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant mewn dulliau ystadegol i ddadansoddi eu data maes. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith cwrs a bydd angen iddynt ymarfer ystod o sgiliau ymchwil, casglu data, dadansoddi, cyflwyno a dehongli. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd angen i'r gwaith cwrs, chwiliadau llenyddiaeth/gwybodaeth a dadansoddi data gael ei wneud yn ddigidol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4