Module Information

Cod y Modiwl
DA10210
Teitl y Modiwl
Cefn Gwlad a'r Ddinas
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Fel arfer, Daearyddiaeth Safon Uwch/Safon Uwch Atodol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 11 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Asesiad 1- Traethawd academaidd ar Ran A, 1500 gair  60%
Asesiad Semester Asesiad 2 - Adroddiad polisi ar Ran B 1000 gair  40%
Asesiad Ailsefyll Asesiad ail eistedd 1  60%
Asesiad Ailsefyll Asesiad ail eistedd 2  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod prosesau allweddol sy’n llywio newidiadau gwledig a dinesig cyfoes.

Dehongli’n feirniadol a defnyddio’n briodol ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol perthnasol o newidiadau gwledig a dinesig.

Adnabod yr oblygiadau polisi o’r newidiadau mewn ardaloedd gwledig a dinesig.

Arddangos sgiliau darllen beirniadol, dehongli, a gwerthuso mentrau polisi ar gyfer ardaloedd gwledig a dinesig.
a.y.y.b.

Nod

Cyflwyna’r modiwl daearyddiaethau dinesig a chefn gwlad i fyfyrwyr, a’r pynciau llosg sydd yn derbyn sylw cyfoes yn y meysydd hyn. Datblyga’r modiwl eu dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd penodol. Rhoddir sylw priodol gan y modiwl at agweddau o newid economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol, a’u heffeithiau ar gymunedau gwledig a threfol.

Cynnwys


Darlithoedd
Rhan A
1 Cyflwyniad: y dinesig a’r gwledig.
2 Newidiadau economaidd a chefn gwlad.
3 Cadwraeth wledig.
4 Newidiadau Demograffig ac arferion beunyddiol cefn gwlad.
5 Gwrthdaro a gwrthdystio gwledig.
Rhan B
6 Globaleiddio a newidiadau economaidd yn y ddinas.
7 Adfywio’r ddinas: polisi, preifateiddio, a phartneriaeth
8 Rheoli’r ddinas: polisi, graddfa, a grym.
9 Treuliant, boneddigeiddio, a pholareiddio cymdeithasol yn y ddinas.
10 Casgliadau.
Seminarau
Cynhelir un seminar pob wythnos gan dynnu ar themâu sy’n pontio cynnwys y darlithoedd a gofynion y gwaith cwrs.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gwneir yn ysgrifenedig drwy’r gwaith cwrs. Gwneir ar lafar drwy gyfraniadau at seminarau
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau trosglwyddadwy megis cyd-weithio, rheoli amser, rheoli adnoddau, a chyfathrebu.
Datrys Problemau Gwneir drwy’r gwaith cwrs
Gwaith Tim Datblygir drwy strategaethau addysgu gweithredol a fydd yn cael yn cael eu cynnwys mewn seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir drwy gwaith paratoi unigol ar gyfer y seminarau a’r gwaith cwrs. Golyga presenoldeb deunydd addysgu ar-lein bod yna gyfle i fyfyrwyr ddychwelyd aqtynt i wella eu dealltwriaeth.
Rhifedd Ni ddatblygir hwn yn benodol, er mae’n bosib bydd rhai darlleniadau a/neu gweithgareddau addysgu gweithredol yn cynnwys elfennau o ddadansoddi ystadegol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gysyniadau allweddol sy’n berthnasol ar gyfer daearyddiaethau gwledig a threfol.
Sgiliau ymchwil Gwneir drwy’r gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Datblygir drwy ddefnyddio’r llwyfan dysgu Xerte er mwyn cael mynediad at y deunydd addysgu ar-lein. Datblygir hefyd drwy ddefnyddio ffynonellau ar-lein megis e-gyfnodolion a straeon newyddion wrth baratoi ar gyfer yr arholiad

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4