Module Information
Cod y Modiwl
DA10110
Teitl y Modiwl
Pobl a Lle
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 11 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (1.5 awr) Papur wedi ei gyhoeddi ar ddiwedd tymor y Nadolig | 80% |
Asesiad Semester | Traethawd grwp - 3,000 gair Adroddiad ysgrifenedig ar y cyd (iw gyflwyno yn wythnos 8): 3,000 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad a fydd yn cyfateb i holl waith y modiwl (100%) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- deall arwyddoca^d y cysyniad o le ar gyfer Daearyddiaeth fel pwnc;
- dangos dealltwriaeth o'r amryw gyd-destunau sydd yn gyfryngau i astudio'r berthynas rhwng pobl a lle yn Naearyddiaeth gyfoes;
- datblygu dealltwriaeth o'r gwaith ymchwil a wnaethpwyd gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill yn y maes hwn;
- darllen yn feirniadol, gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau gwahanol a chyfathrebu syniadau;
- weithio ar y cyd.
Disgrifiad cryno
Pwrpas y modiwl yw i gynnig cwrs rhagarweiniol mewn Daearyddiaeth Ddynol sydd yn archwilio pwysigrwydd y cysyniad o le mewn sawl cyd-destun. Ar o^l cyflwyniad, sy'n nodi'r amryw ffyrdd mae daearyddwyr wedi ystyried y cysyniad o le, trafodir sawl thema o bwys cyfredol wrth astudio lle: sut y dysgir am le gan unigolion; perfformio lle; symudolrwydd a globaleiddio; lle'r genedl; eithrio. Yn hyn o beth, bydd y modiwl yn sylfaen ar gyfer nifer o themau pwysig a drafodir yng ngweddill y cwrs gradd Daearyddiaeth.
Cynnwys
Trafodir y themau canlynol yn y modiwl hwn:
.1. Cyflwyniad: lle yn Naearyddiaeth
.2. Dysgu am le
.3. Perfformio lle
.4. Pobl, lle a symudolrwydd
.5. Pobl, lle a globaleiddio
.6. Pobl, lle a chenedl: ystyriaethau cysyniadol
.7. Pobl, lle a chenedl: astudiaethau achos
.8. Eithrio a lle: cyflwyniad
.9. Eithrio ffisegol, gwleidyddol a dychmygol
.10. Casgliadau
.1. Cyflwyniad: lle yn Naearyddiaeth
.2. Dysgu am le
.3. Perfformio lle
.4. Pobl, lle a symudolrwydd
.5. Pobl, lle a globaleiddio
.6. Pobl, lle a chenedl: ystyriaethau cysyniadol
.7. Pobl, lle a chenedl: astudiaethau achos
.8. Eithrio a lle: cyflwyniad
.9. Eithrio ffisegol, gwleidyddol a dychmygol
.10. Casgliadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir y myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y darlithoedd, e.e. mewn grwpiau trafod ac fel unigolion ond ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Anogir y myfyrwyr i weithio fel ti^m ac i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Datrys Problemau | Datblygir hyn wrth i'r myfyrwyr ddehongli a pharatoi ar gyfer yr adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad. |
Gwaith Tim | Bydd raid i'r myfyrwyr weithio fel ti^m er mwyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig ar y cyd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth anffurfiol i'r myfyrwyr yn gyson yn y darlithoedd ar sail eu cyfraniadau llafar a bydd yn gyfrwng i'w hannog i wella eu perfformiad. Bydd yr adroddiad ysgrifenedig yn gyfrwng arall i alluogi'r myfyrwyr i wella'u perfformiad. Ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Rhifedd | Bydd cyfle i'r myfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth rifyddol er mwyn cwblhau'r ddau aseiniad ar gyfer y modiwl os y mynnent. |
Sgiliau pwnc penodol | Ni ddatblygir medrau o'r fath. |
Sgiliau ymchwil | Anogir y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth er mwyn cwblhau'r adroddiad ysgrifenedig ar y cyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4