Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Dyddlyfr | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ailgyflwyno neu ddiwygio unrhyw elfennau o'r modiwl na gyrhaeddodd y marc llwyddo. Gosodir tasg newydd yn lle'r Dyddlyfr. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Un dasg olygyddol | 30% |
Asesiad Semester | Dyddlyfr hunanfyfyriol Dyddlyfr hunanfyfyriol yn pwyso a mesur y profiad gwaith 1,000-1,500 o eiriau) | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd Traethawd ar agwedd ar ddiwydiant creadigol Cymru (2,000 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Un dasg olygyddol Un dasg olygyddol; un dasg golygu creadigol; un dasg yn cywiro proflenni. | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu dealltwriaeth o'r broses gyhoeddi ac o rolau gwahanol a'r cyfrifoldebau yn y diwydiant creadigol Cymreig. E.e. rol y golygydd a'r asiant; rol yr awdur mewn perthynas a'r diwydiant creadigol yn hytrach na'r proses creadigol (sef cyflwyno gwaith i'r wasg a'r proses cyhoeddi); rol sefydliadau megis CLlC a gweisg annibynnol Cymru.
dangos gallu i wneud ymchwil ffeithiol i'r meysydd dan sylw.
meistroli sgiliau penodol: confensiynau golygyddol; golygu copi a golygu creadigol; darllen a marcio proflenni; paratoi llawysgrif ar gyfer y wasg.
medru trafod agweddau creadigol ac ymarferol y diwydiant creadigol Cymreig yn briodol gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant hwnnw.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn gyflwyniad i wahanol agweddau ar y diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gynnwys edrych ar bob agwedd ar lywio cyfrol drwy'r wasg.
Nod
Nod y modiwl hwn yw rhoi troslwg o'r diwydiant cyhoeddi creadigol cyfoes yng Nghymru a chyflwyno myfyrwyr i wahanol agweddau ar y diwydiant hwnnw mewn seminarau a gweithdai rhyngweithiol, gan ystyried pob agwedd ar lywio cyfrol drwy'r wasg: cynllunio a strwythuro cyfrol; egwyddorion golygyddol a chysondeb; golygu testunau llenyddol; golygu creadigol (ffuglen); golygu copi (sgiliau a chonfensiynau marcio); sut i hwyluso gwaith y cysodwr; darllen proflenni; marchnata; cyhoeddi ar eich liwt eich hunain; e-lyfrau ac ysgrifennu ar gyfer y we; adnoddau print ac electronig defnyddiol. Wrth ddilyn y rhaglen hon, gwneir yn fawr o gymuned greadigol Adran y Gymraeg ac o gysylltiadau'r Adran a sefydliadau ac unigolion perthnasol: Cyngor Llyfrau Cymru; gweisg a chyhoeddwyr; cyrff ariannu; cystadlaethau eisteddfodol (ar wastad lleol a chenedlaethol); sefydliadau sy'r cefnogi llenorion trwy gynnig cyrsiau a grantiau (Llenyddiaeth Cymru, T? Newydd); fforymau i awduron (`Y Neuadd?, Taliesin). Ar wedd ymarferol, nod y modiwl yw pontio cymuned greadigol Adran y Gymraeg Aberystwyth a'r diwydiant creadigol ehangach yng Nghymru gyfoes, a rhoi fframwaith proffesiynol i'r darpar lenorion sy'r dilyn yr MA Ysgrifennu Creadigol.
Cynnwys
1. Rhagarweiniad i'r diwydiant cyhoeddi creadigol yng Nghymru;
2. cynllunio a strwythuro cyfrol;
3. egwyddorion golygyddol a chysondeb;
4. golygu testunau llenyddol;
5. golygu creadigol (ffuglen);
6. golygu copi (sgiliau a chonfensiynau marcio);
7. sut i hwyluso gwaith y cysodwr;
8. darllen proflenni;
9. marchnata;
10. cyhoeddi ar eich liwt eich hunain; e-lyfrau ac ysgrifennu ar gyfer y we; adnoddau print ac electronig defnyddiol.
Bydd y modiwl hwn hefyd yn cynnwys elfen o brofiad gwaith gyda sefydliadau a chwmniau proffesiynol, e.e. CLlC a gweisg annibynnol. Gellid teilwra'r profiad gwaith yn unol a diddordebau'r myfyrwyr unigol: golygu creadigol, marchnata, ac ati.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio’n annibynnol er mwyn cyflawni’r tasgau, ac mae cyfathrebu yn rhan annatod o strwythur y modiwl, sef gweithdai rhyngweithiol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dysgir sgiliau ymarferol a fydd yn ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr yn y diwydiant creadigol. Cynhwysir tridiau o brofiad gwaith ar y modiwl hwn hefyd. |
Datrys Problemau | Cywirdeb wrth olygu copi, golygu creadigol â darllen a marcio proflenni. |
Gwaith Tim | Mae nifer o’r sgiliau yn rhai personol; rhoddir sylw i hyn yn yr aseiniad sy’n gwerthuso’r profiad gwaith. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn rhyngweithio â’i gilydd mewn gweithdai/seminarau, ac yn llunio blog neu ddyddlyfr hunanfyfyriol fel rhan o’r modiwl. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Golygu copi; golygu creadigol; darllen a marcio proflenni. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio rhaglenni megis Microsoft Office (Word, Powerpoint) wrth baratoi tasgau; digwylir iddynt hefyd werthfawrogi pwysigrwydd GT yn y diwydiant creadigol (e.e. rhaglenni cysodi, marchnata, gwefannau, e-lyfrau) |
Technoleg Gwybodaeth | Gweler rhif 2, defnyddio Bwrdd du AberLearn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7