Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 3 x Darlithoedd 1 Awr |
Ymarferol | 2 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 1 x Gweithdy 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | AILGYFLWYNO'R PORTFFOLIO Bydd yn rhaid ail-lunio ac ailgyflwyno'r portffolio oni fydd y myfyriwr yn llwyddo i ennill marc pasio y tro cyntaf. | 100% |
Asesiad Semester | LLUNIO PORTFFOLIO | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau cyhoeddus a phreifat Cymru.
Dangos dealltwriaeth o brif ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda golwg ar weithredu Cynllun Iaith Gymraeg.
Myfyrio ar y gwahanol gyd-destunau gweinyddol lle defnyddir yr iaith yn y gymdeithas.
Cloriannu'r defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau gan sylwi ar gryfderau a gwendidau, a gwahaniaethu rhwng arferion da a gwael.
Meithrin agwedd hyderus wrth weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg gan droi llaw at lunio dogfennau, eu golygu a'u cyfieithu.
Bod yn ymwybodol o'r prif gynorthwyon printiedig ac electronig a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n gweinyddu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhyrchu portffolio proffesiynol ei ddiwyg a'i gynnwys ar sail eu cyfnod profiad gwaith.
Trafod yn hyderus a graenus ganlyniadau eu hymchwiliadau yn ysgrifenedig.
Gweithredu fel unigolyn cyfrifol ac fel aelod llawn o di^m yn y dosbarth ac yn y gweithle.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau'r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o'r Gymraeg ym myd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a'r byd tu allan, ac yn rhoi i'r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd a swyddi gweinyddol ar ôl graddio.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebu a^ chyd-weithwyr yn y gwahanol leoliadau gwaith. Cyfathrebu yn ysgrifenedig yn y portffolio. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r cwrs hwn yn ei gynnig ei hun ar gyfer y myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat. Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a'i gynnwys yn ei bortffolio a asesir. |
Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o'r dyletswyddau a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau. |
Gwaith Tim | Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o di^m wrth weithio ar y cyd a^ gweddill aelodau'r dosbarth mewn cyflwyniad llafar a phwyllgor mewn seminar, ac a^ chyd-weithwyr yn y gweithle. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Adrodd a myfyrio'n feirniadol mewn seminar ar berfformaid unigol yn ystod ac ar o^l y cyfnod o brofiad gwaith ac adlewyrchu hynny wedyn yn y portffolio a asesir. |
Rhifedd | Gall hyn fod yn rhan o brofiad y myfyriwr yn y gweithle lle y bydd yn treulio ei gyfnod o brofiad gwaith ynddo, ond mae'n dibynnu'n hollol ar natur y gweithle. |
Sgiliau ymchwil | Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i'r defynydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo a^ ffynonellau gwybodaeth electronig. |
Technoleg Gwybodaeth | Ygyfarwyddo a^ safleoedd perthnasol ar y we a'r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr Cymraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi'r portffolio. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6