Module Information
Cod y Modiwl
CY35520
Teitl y Modiwl
Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
CY10110+CY10210+CY10310, CY10410 + naill ai CY12420 neu CY12510 + CY12610 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 + CY12220
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 16 x Darlithoedd 1 Awr |
Gweithdy | 2 x Gweithdai 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad atodol | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Papur seminar 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Papur seminar 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Papur seminar 1,500 o eiriau | 20% |
Asesiad Semester | Papur seminar 1,500 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Trafod cysyniadau beirniadol.
Deall beirniadaeth lenyddol yn ei chyd-destun diwylliannol a chymdeithasol ehangach.
Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi cyfraniad beirniadaeth gan ddefnyddio ystod o dechnegau beirniadol.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad amseryddol bras i ystod o ddamcaniaethau llenyddol/athronyddol; o'r byd clasurol (Platoniaeth/Aristoteliaeth) trwy'r Oesoedd Canol a'r Dadeni a beirniadaeth eisteddfodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyflwynir myfyrwyr i brif ffrydiau theoretig yr ugeinfed ganrif, ac edrychir ar rai o brif feirniaid llenyddol y Gymraeg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathebru¿n rhugl gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir. Neilltuir cyfran o bob darlith i drafod darn o lenyddiaeth neu feirniadaeth yn fanylach. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl yn meithrin sgiliau astudio ac ymchwil. Bydd cynnwys y modiwl yn berthnasol i rai a fydd yn dilyn gyrfa ym myd dysgu, addysg a¿r dyniaethau. |
Datrys Problemau | Meithrinnir medrau¿r myfyrwyr mewn perthynas ag adnabod ac ymdrin â thestunau cymhleth o ran iaith, mynegiant a syniadaeth. |
Gwaith Tim | Anogir myfyrwyr i ddarllen gwaith ei gilydd ymlaen llaw ac ategu sylwadau ei gilydd. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Meithrinnir cyneddfau beirniadol y myfyrwyr mewn perthynas â'r testunau a astudir ac â¿u gwaith eu hunain. Anogir myfyrwyr i ddarllen gwaith ei gilydd ac i drafod eu gwaith ysgrifenedig wrth iddo gael ei baratoi. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o¿r berthynas rhwng hanes meddyliol gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod dan sylw a¿i gynnyrch beirniadol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio traethawd sy¿n gofyn darllen y tu hwnt i¿r testunau a drafodir yn y darlithiau. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir myfyrwyr (a¿u hyfforddi lle bo hynny¿n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6