Module Information

Cod y Modiwl
CY13120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Astudio ac Ysgrifennu Academaidd
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 10 x Gweithdai 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Pecyn: tasgau wythnosol  2000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.  1000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Pecyn: tasgau wythnosol  2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.  1000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

medru defnyddio Llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol a’u adnoddau amrywiol, gan gynnwys adnoddau electronig, yn effeithiol.

Paratoi, cynllunio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau yn amserol ac yn effeithiol.

Cyflwyno dadl resymegol a herio rhagdybiaethau mewn modd effeithiol a theg.

Cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy’n ufuddhau i gonfensiynau academaidd yr Adran neu’r Athrofa mewn perthynas â throednodi a darparu llyfryddiaeth, ac ati.

dangos dealltwriaeth o gywair academaidd priodol a chywirdeb ieithyddol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn rhan o’r broses o gynefino â bywyd academaidd yn y Brifysgol. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd. Meithrinir nifer o sgiliau angenrheidiol eraill hefyd: rheoli amser, meddwl yn feirniadol, ymagweddu’n hunanfeirniadol ac ati.

Cynnwys

1. Cynefino; rheoli amser a chymryd nodiadau mewn darlithiau. Defnyddio Llyfrgell y Brifysgol a’i hadnoddau: BwrddDu, rhestrau darllen Talis Aspire, adnoddau’r Porth (CCC).
2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru: aelodaeth, cynllun gwrifoddoli LlGC, y casgliadau a’r adnoddau electronig.
3. Paratoi a chynllunio aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau; cyflwyno ac adeiladu dadl; defnyddio meini prawf.
4. Llên-ladrad ac ymddygiad annheg.
5. Cyfeirio a throednodi; llyfryddiaethau.
6. Golygu eich gwaith; cyweiriau iaith a chyflwyniad i nodweddion Cymraeg academaidd
7. Syrjeri iaith 1
8. Syrjeri iaith 2
9. Syrjeri iaith 3
10. Arholiadau: adolygu a chynllunio traethodau mewn arholiad.
Cynhelir 10 gweithdy 2 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.

Nod

Rhesymeg y modiwl hwn yw bod angen modiwl ar sgiliau astudio ac ysgrifennu academaidd ar fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf er mwyn hwyluso’r broses gynefino, er mwyn eu paratoi ar gyfer gwaith ysgrifenedig yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol, ac er mwyn atgyfnerthu eu hyder wrth feistroli cywair academaidd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae cyfathrebu yn effeithiol, yn gywir ac yn briodol (yn eu geiriau eu hunain) yn hanfodol i’r gweithdai a gynhelir ar y modiwl hwn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trosglwyddir sgiliau ymarferol a fydd yn sylfaen ddefnyddiol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Datrys Problemau Ni fydd datrys problemau, fel y cyfryw, yn rhan o’r modiwl hwn. Er, bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio strategaeth ar gyfer rheoli amser yn effeithiol a threfnu deunydd.
Gwaith Tim Cyd-drafod a mynegi barn mewn ymarferion, e.e. ymarfer llên-ladrad
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Cynhyrchu tasgau ysgrifenedig effeithiol, a gwella cywirdeb ieithyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Meithrinir sgiliau ymarferol ac ieithyddol trosglwyddadwy sy’n benodol i’r dyniaethau
Sgiliau ymchwil Trwy’r cyflwyniad i gyweiriau’r iaith a nodweddion Cymraeg academaidd; trwy’r cyflwyniad i Lyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’u hadnoddau.
Technoleg Gwybodaeth Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4