Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Gweithdy | 10 x Gweithdai 1 Awr |
Gramadeg | 10 x Gweithgaredd Gramadeg 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr arholiad atodol | 80% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 80% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarferion | 20% |
Asesiad Semester | Ymarferion | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Ar o^l dilyn y modiwl hwn:
1. Byddwch yn deall sut y mae llunio cymalau adferfol yn gywir.
2. Byddwch yn deall sut y mae defnyddio rhagenwau personol yn gywir, rhai blaen, rhai o^l, a rhai mewnol.
3. Byddwch yn deall sut y mae llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir.
4. Byddwch yn deall sut mae llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.
5. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n hyderus yn y cywair llenyddol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a dealltwiraeth ramadegol myfyrwyr yn y Gymraeg. Cyflwynir pwnc gramadegol newydd ym mhob sesiwn gramadeg a gwneir ymarferion perthnasol yn y seminar. Yn y gweithdy wythnosol mae cyfle i drafod problemau penodol sy'n codi yng ngwaith y myfyrwyr.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4