Module Information

Module Identifier
CM10120
Module Title
Deall y Byd Cymdeithasol
Academic Year
2017/2018
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 10 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment 1 x 1,000 gair Adolygu cysyniad  34%
Semester Assessment 1 x 2,000 gair Traethawd  66%
Supplementary Assessment 1 x 1,000 gair Adolygu cysyniad  34%
Supplementary Assessment 1 x 2,000 gair Traethawd  66%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Disgrifio’r cysyniadau a’r dadleuon allweddol sydd wedi bod o ddiddordeb i wyddonwyr cymdeithasol.
2. Dangos dealltwriaeth glir o wahanol ddulliau damcaniaethol ac empiraidd o edrych ar y berthynas rhwng gweithredoedd dynol a strwythurau cymdeithasol a gwleidyddol.
3. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o astudiaethau achos cyfoes yn ymwneud â gweithredoedd dynol a hunaniaeth, strwythurau cymdeithasol a gwleidyddol, a pherthnasoedd grym.

Brief description

Mae “Deall y Byd Cymdeithasol” yn cynnig cyflwyniad i’r traddodiadau allweddol o ran syniadaeth a’r dadleuon allweddol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gyda phwyslais penodol ar themâu trawsbynciol sydd wedi ei hastudio gan ysgolheigion sy’n gweithio ym maes daearyddiaeth ddynol, gwleidyddiaeth, seicoleg, cymdeithaseg a hanes.
Mae’r modiwl hwn yn ceisio cyflwyno i’r myfyrwyr rai o’r traddodiadau, cysyniadau a dadleuon allweddol sydd wrth wraidd ymchwiliadau’r gwyddorau cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno’r prif ystyriaethau ar draws gwahanol ddisgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol, gan gyflwyno themâu sy’n gwbl ganolog i ddaearyddiaeth ddynol, gwleidyddiaeth, hanes, seicoleg a chymdeithaseg.

Content

Cyflwynir y modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Ymhlith y prif bynciau a drafodir yn ystod y modiwl bydd:

• Gwleidyddiaeth, Rhyddid a goddrychedd
• Agweddau at ymddygiad
• Ymgorfforiad ac emosiwn
• Bydoedd cymdeithasol materol a chymysgryw
• Dosbarth, cyfoeth a grym
• Rhywedd a rhywioldeb
• Cenedligrwydd, ethnigrwydd a hil
• Bydoedd cymdeithasol wedi’u cyfryngu
• Diogelwch byd-eang

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Nid yw’n rhywbeth sy’n cael ei ddatblygu’n benodol yn y modiwl hwn.
Communication Bydd y myfyrwyr yn cwblhau asesiadau ysgrifenedig, a thrwy hynny’n datblygu eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu ar lafar drwy weithio mewn tîm a chymryd rhan mewn ymarferion yn y dosbarth.
Improving own Learning and Performance Bydd mynd i ddarlithoedd a chymryd rhan ynddynt yn helpu’r myfyrwyr i wella ystod o sgiliau dysgu. Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp ac astudiaethau hunan-gyfeiriedig helaeth.
Information Technology Bydd y myfyrwyr yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y modiwl gan ddefnyddio peiriannau chwilio llyfryddiaethol a chatalogau llyfrgelloedd. Byddant hefyd yn defnyddio pecynnau prosesu geiriau safonol i gwblhau’r gwaith cwrs.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn helpu’r myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys rheoli amser, hunanddisgyblaeth, cynllunio ymchwil a gwaith tîm mewn ymarferion yn y dosbarth.
Problem solving Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau datrys problemau’r myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi amryw o wahanol ffynonellau a thestunau mewn ymarferion yn y dosbarth ac yn rhan o’u hymchwil annibynnol a’u hasesiadau gwaith cwrs.
Research skills Disgwylir i’r myfyrwyr ymchwilio i ystod o ffynonellau academaidd a’u cydblethu wrth baratoi at y dosbarthiadau a’r asesiadau.
Subject Specific Skills Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr i ddatblygu ac ymarfer sgiliau pwnc-benodol o’r adrannau cyfansoddol sy’n dysgu’r modiwl, sef daearyddiaeth ddynol, gwleidyddiaeth, hanes a seicoleg.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cwblhau ymarferion datrys problemau ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp yn y dosbarth, a thrwy hynny’n datblygu sgiliau gwaith tîm ac yn trafod eu syniadau â’r dosbarth.

Notes

This module is at CQFW Level 4