Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Taith Maes | 5 x Teithiau Maes 8 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig am y daith astudio (4,500 gair). Seminarau ar y daith astudio | 70% |
Asesiad Semester | Portffolio Profiad Gwaith a Phortffolio Cynllunio Gyrfa | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr gymryd elfennau asesu sy'n gyfwerth â'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos dealltwriaeth o'r cyswllt rhwng polisi, lleoliad, arferion amaethyddol a'r economi wledig.
2. Defnyddio dull beirniadol, arfarnol a dadansoddol wrth ystyried amaethyddiaeth a'r economi wledig.
3. Deall pa mor gymhleth yw'r prosesau penderfynu wrth reoli ac arallgyfeirio yng nghefn gwlad y DU.
4. Myfyrio'n ddwys am brofiad y gweithle a nodi eu cryfderau a'u gwendidau, gan nodi strategaethau ar gyfer ymdrin â'r gwendidau.
5. Cyfleu profiad yn y modd y bydd cyflogwyr yn ei ddisgwyl a chynllunio ar gyfer strategaeth i ddatblygu gwell gyrfa yn y dyfodol.
6. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer myfyrio ynghylch profiadau gwaith yn y dyfodol ar ôl i'r modiwl ddod i ben.
Disgrifiad cryno
Ar ben yr ymweliadau a'r cyfraniadau y bydd y myfyrwyr yn eu gwneud yn y seminarau gyda'r hwyr, byddant yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig am y rhanbarth. Byddant bob amser yn gweithio mewn modd dadansoddol, beirniadol ac arfarnol a bydd eu gwaith yn cynnwys adolygiad o'r testunau priodol. Bydd y myfyrwyr yn myfyrio ynghylch eu profiad yng nghyd-destun datblygu eu cyflogadwyedd, gan anelu at gynhyrchu adnoddau i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i'r myfyrwyr lunio dogfen gyfarwyddo a anelir at eu cyd-fyfyrwyr, a fydd yn rhoi proffil o'u gyrfa, gan ganolbwyntio ar sgiliau, heriau a chyfleoedd. Ar ben hynny, bydd disgwyl i'r myfyrwyr lunio cyflwyniad byr, sef 10 munud, i'w rhoi i'w cyd-fyfyrwyr gyda sesiwn holi ac ateb wedyn.
Disgwylir i'r myfyrwyr hefyd wneud o leiaf 50 awr o brofiad gwaith gwirfoddol neu gyflogedig (rhan amser neu amser llawn) yn ystod blwyddyn 2 - yn ystod y tymor neu'r gwyliau. Rhaid i'r profiad gwaith hwnnw gydymffurfio â set o feini prawf ac mae'n rhaid i'r gwaith fod yn uniongyrchol berthnasol i'r cynlluniau gradd. Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod eu profiad gwaith a chwblhau cyfres o asesiadau ffurfiannol. Ar ddiwedd y cyfnod gwaith, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno portffolio lle y byddant yn myfyrio ar eu profiad, yn nodi'r sgiliau sydd angen eu datblygu (a'r cyfleoedd sydd i wneud hynny) ac yn llunio cynllun CAMPUS (SMART), fel rhan o'r portffolio profiad gwaith a fydd yn anelu at wella eu cyflogadwyedd yn ystod blwyddyn 3 a'r tu hwnt.
Cynnwys
Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol am 50 awr gyntaf y gwaith. Darperir ffurflen a bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud cofnod unwaith bob diwrnod gwaith (neu fesul cyfnod 8 awr olynol os rhan amser yw'r gwaith). Bydd adnoddau ar gael i gynorthwyo'r myfyrwyr ar-lein (fe'u darperir ar Blackboard (ac ar ffurf pecynnau y gellir eu lawrlwytho neu eu hargraffu ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd)). Bydd y dyddiadur myfyriol yn rhan o'u portffolio.
Ar ôl cwblhau'r 50 awr o brofiad gwaith, bydd y myfyrwyr yn gwneud cyfres o ymarferion er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau a feithrinwyd ganddynt, o sut y bydd cyflogwyr yn gweld y sgiliau hynny, a sut y gallent gyfleu eu cyflawniadau. Datblygir yr ymarferion drwy ymgynghori â'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.
Disgwylir i'r myfyrwyr lunio portffolio a fydd yn cynnwys (yn ogystal â'r dyddiadur):
a. tystiolaeth o'r cyfnod gwaith
b. archwiliad sgiliau wedi'i gwblhau (a seiliwyd ar yr AGAPh cyfredol)
c. tystiolaeth o'u cyswllt â'r Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blynyddoedd 1 a 2
d. cynllun gweithredu CAMPUS/SMART a fydd yn nodi'r camau a gymerir ym mlwyddyn 3
e. CV yn cynnwys y profiad a gafwyd yn ystod y lleoliad gwaith
Darperir templedi priodol er mwyn i'r myfyrwyr allu ymgorffori profiad gwaith pellach yn eu portffolio, a fydd yn tyfu ac yn dal i fod yn adnodd defnyddiol ar ôl i'r modiwl ddod i ben.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy'r daith astudio (gan gynnwys y seminarau gyda'r hwyr ar y daith), yr adroddiad ysgrifenedig a'r portffolio cynllunio profiad gwaith / gyrfa. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Industry contacts will be made during field trip and the portfolio will form part of the career planning and job seeking process. |
Datrys Problemau | Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir |
Gwaith Tim | Mae'r daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn darparu cyfleoedd sylweddol am rhyngweithio a thrafodaethau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrio ynghylch y profiad gwaith a'r cynllunio gyrfaol yn gwella dysgu a pherfformiad y myfyrwyr eu hunain. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrinir cysylltiadau â byd diwydiant yn ystod y daith maes a bydd y portffolio yn rhan o'r broses cynllunio gyrfaol a chwilio am swyddi. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn cael profiad o ymchwil cyn y daith astudio ac ar y daith, yn ogystal â chwblhau gwaith cwrs |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd cyflwyno'r gwaith cwrs yn datblygu TG ymhellach |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6