Module Information

Cod y Modiwl
BG20810
Teitl y Modiwl
Ecoleg Microbau Dyfrol a Daearol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 2 x Seminarau 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd a chyflwyniad poster / cyflwyniad  40%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu waith gwahanol  60%
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwyno gwaith cwrs a fethwyd neu waith gwahanol  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos gwybodaeth ynghylch sut y gellir astudio microbau yn eu cynefinoedd naturiol a chyfyngiadau'r dulliau hyn.

2. Dangos dealltwriaeth o'r swyddogaethau unigryw a chwaraeir gan ficrobau gwahanol mewn cylchoedd carbon a nitrogen.

3. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y mae microbau'n ymwneud ag organebau uwch.

4. Defnyddio sgiliau TG i ddadansoddi a gwerthuso llenyddiaeth ar gyfer seminarau a chyflwyniadau poster mewn grwp.

5. Perfformio mewn tim i baratoi a chyflwyno seminar a phoster ar bwnc penodol ym maes ecoleg microbial.

Disgrifiad cryno

Drwy gyfrwng cyfres o ddarlithoedd a gweithdai bydd y modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r rhan a chwaraeir gan ficro-organau (gan gynnwys ffyngau, bacteria, archaea, algae) mewn ecosystemau daearol a dwr, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd mewn cylchedd biogeogemegol ynghyd a'r methodolegau a ddefnyddir i astudio'r organeddau hyn.

Nod

1. Cynyddu dealltwriaeth ynglyn a pa technolegau fedrith cael eu defnyddio i astudio microbau yn eu cynefinoedd naturiol ac agweddau positif ac negyddol rhai o'r dulliau.
2. Cynyddu dealltwriaeth o swyddogaethau ficrobau gwahanol mewn cylchoedd carbon a nitrogen.
3. Cynyddu dealltwriaeth o rhyngweithiadau microbau ag organebau uwch.
4. Gwerthuso llenyddiaeth addas ar gyfer seminarau a chyflwyniadau poster mewn grwp.
5. Y gallu i berfformio mewn tim i baratoi a chyflwyno seminar a phoster ar bwnc penodol ym maes ecoleg microbial.

Cynnwys

Darlithoedd
I gynnwys gwybodaeth am fethodolegau mewn ecoleg microbial (bio-gemegol/moleciwlaidd), amrywiaeth bio-gemegol a genetig mewn Bacteria/Archaea, swyddogaeth ffyngau mewn diraddiad lignoselwlos, rhyngweithio microbial mewn llynnoedd/afonydd, swyddogaeth ffyngau wrth brosesu gweddillion mewn afonydd, cynhyrchiant cynradd mewn cynefinoedd pelagig, rhyngweithio rhwng microbau ac anifeiliaid, rhyngweithio (ffermio ffyngau/ microbioleg y geg / ecosystem y rumen) rhwng microbau a phlanhigion (mycorhisol/sefydlynnau nitrogen).

Seminarau
I gynnwys paratoi a chyflwyno posteri fel grwp ar astudiaethau achos penodol mewn ecoleg microbial. (Bydd hyn yn caniatau elfen o arbenigo yn unol a chynllun gradd unigolion).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd mynychu darlithoedd a pharatoi a chyflwyno yn y seminar, cyflwyno poster a thraethawd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau cyflwyno (llafar ac ysgrifenedig) a sgiliau gwrando.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd ymwybyddiaeth o sgiliau datblygu personol a gyrfaol yn cael eu datblygu drwy'r gwaith cwrs, e.e. gwaith tîm ar gyfer posteri.
Datrys Problemau Bydd seminarau a pharatoi poster yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau datrys problemau.
Gwaith Tim Cynhyrchu a chyflwyno posteri grwp. Sesiynau ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Wrth fynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai, paratoi ar gyfer amserlen seminarau a gweithdai, a pharatoi ar gyfer arholiadau, bydd gofyn datblygu strategaethau hunan-reoli a chynlluniau gweithredu personol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd sgiliau penodol i'r cysyniadau perthnasol mewn ecoleg microbau yn cael eu datblygu.
Sgiliau ymchwil Seminarau a pharatoi poster gan ddefnyddio'r lyfrgell ac adnoddau ar y we.
Technoleg Gwybodaeth Datblygir sgiliau TG mewn seminarau ac wrth gyflwyno posteri drwy * ganfod gwybodaeth o'r llyfrgell a'r we * defnyddio PowerPoint * paratoi poster

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5