Module Information

Cod y Modiwl
BG20720
Teitl y Modiwl
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 44 x Darlithoedd 1 Awr
Ymarferol 1 x Gweithgaredd Ymarferol 3 Awr
Gweithdy 1 x Gweithdy 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   40%
Asesiad Semester Ymarfer dadansoddi a dogni bwydydd.  40%
Asesiad Semester Prawf MCQ haner canol yr semester 1  10%
Asesiad Semester Prawf MCQ haner canol yr semester 2  10%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  40%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd a thrafod rhinweddau cymharol pob un ar gyer gwartheg fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes.

Trafod llunio dognau ar gyfer gwartheg fferm ceffylau neu anifeiliaid anwes.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn trafod dadansoddi bwydydd, ffisioleg treulio bwyd, dogni egni a phrotein, y mathau o fwydydd a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid fferm, rheoli faint o fwyd sy'n cael ei fwyta, a swyddogaeth fitaminau a mwynau ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Bydd strwythur triphlyg i'r modiwl: cyfres gychwynnol o ddarlithoedd fydd yn disgrifio egwyddorion sylfaenol maeth anifeiliaid a bydd disgwyl i bob myfyriwr fynychu'r rhain; dilynir y rhain gan dair cyfres gyfochrog o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai fydd yn trafod maeth anifeiliaid fferm, maeth ceffylau a maeth anifeiliaid anwes, a bydd y myfyrwyr yn dewis un o'r rhain.

Cynnwys

Cynnwys sy'n gyffredin i'r holl fyfyrwyr (15 darlith)

Trafodir egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud a bwydydd anifeiliaid, dadansoddi bwydydd, anatomeg dreulio, rheoli chwant bwyd, a maeth egni, protein, mwynau a fitaminau.

Cynnwys sy'n benodol ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes (10 darlith)
Trafodir y gofynion o ran egni, protein, fitaminau a mwynau, dogni bwydydd, ac anhwylderau maeth a'u perthynas a'r dosbarthiadau hyn o anifeiliaid.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad a'r aseiniad, a bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i werthuso bwydydd a dognau drwy'r modiwl. Bydd strwythur y diwydiant bwydydd anifeiliaid a'i isadeiledd ymchwil cynorthwyol yn rhan hanfodol o'r modiwl, gan ddatgelu ambell gyrchfan posibl i'r myfyrwyr o ran eu gyrfa.
Datrys Problemau Mae dogni yn gofyn am gydbwyso'n ofalus ystod o ddiddordebau sy'n cystadlu â'i gilydd am wahanol faethynnau. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu a'i asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyflawni gwaith erbyn y dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Rhifedd Bydd yr aseiniad ar ddogni yn gofyn i fyfyrwyr drafod rhifau, a chaiff hyn ei asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir cysyniadau penodol i'r pwnc yn ymwneud â maeth anifeiliaid a dogni anifeiliaid.
Sgiliau ymchwil Yn yr aseiniad a'r arholiad, bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we wrth chwilio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lyfrau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Bydd y paratoi a wneir ar gyfer yr aseiniad yn cael ei asesu, a dylid paratoi hyn ar gyfrifiadur. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5