Module Information

Cod y Modiwl
ADM5700
Teitl y Modiwl
TAR (Uwchradd): Astudiaethau Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Ymchwil Gwreiddiol (5,000 gair)  65%
Asesiad Semester 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair  35%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Ymchwil Gwreiddiol (5,000 gair)  65%
Asesiad Ailsefyll 2 Adroddiad Adfyfyriol Astudiaethau Proffesiynol (3,000 gair  Gosodir teitl newydd  35%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol effeithiolrwydd y strategaethau addysgu a dysgu y maent wedi'u harsylwi a'u defnyddio ar draws ystod eang o anghenion dysgu;

Creu perthynas feriniadol rhwng damcaniaethau cymhelliant ag arferion ysgol a dosbarth drwy dynnu ar enghreifftiau o'u harsylwi a'u hymarfer mewn Profiad Ysgol;

Dangos yn feirniadol dealltwriaeth dda o sut mae ymchwil a damcaniaeth yn gallu cael eu defnyddio'n ymarferol drwy ymgymryd a Thraethawd Astudiaeth Agored;

Defnyddi'r llenyddiaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a ddetholwyd ar gyfer y Traethawd Astudiaeth Agored yn feriniadol ac yn gynhwysfawr;

Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain yn feirniadol drwy dynnu ar eu hathroniaeth eu hunain o addysgu a dysgu yn ogystal a gwersi a arsylwyd a'r rheini a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd ganddynt;

Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ofynion proffesiynol eraill megis dyletswyddau proffesiynol athrawon, ymrwymiadau cyfreithiol athrawon, iechyd a diogelwch, sefydlu perthynas waith da a chydweithwyr proffesiynol a'r angen i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain;

Deall a meddu ar wybodaeth weithredol o ystod eang o faterion yn ymwneud ag addysg dysgwyr, gan gynnwys dimensiynau trawsgwricwlaidd megis ABCh, y Cwricwlwm Cymreig, Dinasyddiaeth Fyd-eang a Datblygiad Cynaliadwy;

Monitro eu datblygiad proffesiynol parhaus drwy fyfyrio a gwerthuso'u profiadau eu hunain yn erbyn y Safonau Statws Athro Cymwysedig (SAC).


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7