Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 3 x Darlithoedd 2 Awr |
Lecture | 2 x Darlithoedd 2 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Portffolio - Portffolio o'r sgiliau a ddysgwyd a'r tasgau a gwblhawyd ar leoliad | 20% |
Semester Assessment | Asesu - sefydliad y lleoliad | 10% |
Semester Assessment | Cyflwyniad ar ol y lleoliad (10-15 munud) | 20% |
Semester Assessment | Adroddiad yn ystyried y Lleoliad (diwedd yr ail semester) - 1,500 o eiriau | 50% |
Supplementary Assessment | Ailsefyll drwy gyflwyno Adroddiad Myfyriol Estynedig - 4,000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Gweithio ar leoliad am gyfnod sy'n ofynnol.
2. Gweithio yn ôl amserlen benodol mewn asiantaeth cyfiawnder troseddol, y llywodraeth neu amgylchfyd academaidd.
3. Gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm.
4. Defnyddio'r wybodaeth a gafwyd drwy'r astudiaethau academaidd mewn sefyllfa yn y gweithle.
5. Ystyried sut i ddefnyddio eu sgiliau cyflogadwyedd i wella eu dysgu academaidd.
6. Asesu ac ystyried yr wybodaeth a'r profiad a gafwyd ar leoliad a'u defnyddio wrth weithio ar ddarn o waith academaidd.
7. Asesu cyfraniad yr hyfforddiant sgiliau a'r profiad gwaith i'w datblygiad gyrfa.
Content
Sesiynau rhagarweiniol i'w dysgu gan Staff y Brifysgol
1. Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
2. Cyflwyniad i waith maes a'i faglau.
Hyfforddiant Sgiliau Rhagarweiniol yn cael ei ddarparu gan Sefydliadau
Lleoliad
Trafod ac ystyried
Brief description
Byddai gofyn i fyfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn ddilyn hyfforddiant ar leoliad gwaith yn un o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn wirfoddol neu am dâl. Ar ôl yr hyfforddiant, byddai disgwyl iddynt wneud nifer penodol o oriau gwaith yn wirfoddol neu am dâl. Byddai gofyn iddynt wedyn ddychwelyd a chwblhau traethawd estynedig fel rhan o'r gwaith asesu. Rhan fechan o'r asesu fyddai asesiad o'u perfformiad ar leoliad a fyddai'n cael ei asesu gan sefydliad y lleoliad.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Mae nifer o'r asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio ymchwil feintiol i bennu polisi a bydd nifer hefyd yn defnyddio materion meintiol i fesur effeithiolrwydd ymyriadau yn gyffredinol ac ar unigolion arbennig. |
Communication | Anogir a datblygir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac wrth gydadweithio â chydweithwyr a / neu gleientiaid yn y lleoliad gwaith. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy'r cynllun a'r traethawd estynedig byr. |
Improving own Learning and Performance | Galluogir myfyrwyr i ystyried eu dysgu eu hunain trwy'r trafodaethau seminar a'r adborth ar y gwaith. Efallai y bydd y posibilrwydd o ystyried eu disgyblaeth ar waith mewn amgylchfyd ymarferol a'r cydadweithio rhwng y ddisgyblaeth a pholisi ac ymarfer llawer mwy gwerthfawr. |
Information Technology | Bydd chwilio trwy gronfeydd data a chyfnodolion electronig ar lein yn rhoi cyfle i ymarfer sgiliau TG. Gan ddibynnu ar eu lleoliadau, bydd y myfyrwyr yn debygol hefyd o ddod ar draws systemau newydd o grynhoi gwybodaeth cleientiaid ar gronfeydd data. |
Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl mewn lle da ar gyfer atgyfnerthu dysgu'r myfyrwyr yn y meysydd hyn; dyma'n wir yw'r ethos sydd wrth wraidd y modiwl. |
Problem solving | Yn ystod y lleoliad bydd rhaid datrys nifer o broblemau ymarferol fydd yn datblygu ac yn atgyfnerthu sgiliau datrys problemau ymarferol a sgiliau beirniadol y myfyrwyr. |
Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio deunydd darllen ar agweddau ar y lleoliad. |
Subject Specific Skills | Bydd datblygu sgiliau sy'n benodol i'r pwnc yn agwedd ar gyfer pob un myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar y lleoliad. |
Team work | Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tîm felly bydd y modiwl o reidrwydd yn atgyfnerthu sgiliau gweithio mewn tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 6