Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 3 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd Estynedig: 8,000 - 10,000 o eiriau ar yr un pwnc. | 100% |
Asesiad Semester | Traethawd Estynedig: 8,000 - 10,000 o eiriau ar y pwnc a gymeradwywyd. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy adnabod testun hyfyw i ymchwilio iddo;
2. Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau a dangos gallu i werthuso a blaenoriaethu'r ffynonellau pwysicaf;
3. Cynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd;
4. Trefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl, y gwerthusiad beirniadol, y data a'r sylwadau clo yn effeithiol;
5. Dadansoddi'n feirniadol a gwerthuso'r deunydd troseddegol a seicolegol;
6. Rhoi cyflwyniad eglur, cywir, dadansoddol a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud â phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig.
Cynnwys
2. Pynciau Moesegol;
3. Llên-ladrad;
4. Ysgrifennu'r traethawd;
Bydd y pwnc sylwedd yn cael ei ddewis gan y myfyriwr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Anogir cyfathrebu ar lafar trwy drafod syniadau a mynegi'r problemau sy'n gysylltiedig â'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda'r goruchwyliwr. Atgyfnerthir cyfathrebu ysgrifenedig drwy baratoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith ar amser. |
Datrys Problemau | Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn cynnwys sgiliau datrys problemau a bydd gwneud hynny yn atgyfnerthu ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes. |
Gwaith Tim | Gelwir nifer o gyfarfodydd i roi cyfle i'r myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu'r problemau a wynebwyd a'r atebion posibl iddynt. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a'r angen i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol a'u trefnu, bydd y myfyriwr yn dysgu i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol. |
Rhifedd | Bydd nifer o'r testunau yn cynnwys gwaith dadansoddol ystadegol cymhleth fydd angen ei ddeall a'i werthuso. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Mae datblygu sgiliau ymchwil yn hanfodol mewn modiwl traethawd estynedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau yn arbennig; Paratoi'r aseiniad yn electronig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6