Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 (dewis o deitlau newydd) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 (dewis o deitlau newydd) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o brif ddamcaniaethau ffilm a'r cyfryngau
2. Dadansoddi testunau cyfryngol gweledol yn feirniadol
3. Trafod testunau cyfryngol gweledol yn eu cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ehangach
4. Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n tystio i feddiant sgiliau beirniadaethol a dehongliadol
Disgrifiad cryno
Cyflwynir myfyrwyr i sylfaen astudiaeth academaidd o ffilm a chyfryngau gan gynnwys darlledu a chyfrygnau digidol. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i datblygiad ffilm a'r cyfryngau fel ffenomenon diwylliannol a hcymdeithasol. Cynllunir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clir a thrylwyr i brif feysydd astudiaeth academaidd o ffilm a'r cyfryngau. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod cysyniadau amrywiol trwy gynnig astudiaethau a gorolwg hanesyddol o fewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Ymhlith y testunau a astudir bydd y cysyniad o sinemau genedlaethol, auteuraeth, ffilm fel naratif, hanes darlledu a genre.
Cynnwys
10 x 1 awr seminar - semester 1
10 x 3 awr darlith/sesiwn wylio - semester 1
10 x 1 awr seminar - semester 2
10 x 3 awr darlith/sesiwn wylio - semester 2
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, trafodaetu seminar. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau penodol, ac cyhwanegu at sgiliau sylfaenol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac aseiniadau. Er na asesir y priodoleddau yma'n ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr i drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd-fyfyrwyr a'u tiwtor. Rhoddir adborth manwl ar y ffurflen asesu. |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4