Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd (2000-2500 gair) | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Atodol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
'
dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hanes modern Ffrainc a Gogledd Affrica
deall perthnasedd digwyddiadau hanesyddol penodol i gymdeithas Ffrengig gyfoes
asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf rhyfel Algeria yn ddadansoddol
datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beriniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol
.
datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonelau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn dyfnhau dealltwriaeth hanes modern Ffrainc a pherthnasedd digwyddiadau hanesyddol penodol i gymdeithas Ffrengig. Fe fydd myfyrwyr yn asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf rhyfel Algeria yn ddadansoddol.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol. Fe fydd fyfyrwyr yn datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.
Cynnwys
1. Yr Ymerodraeth Ffrengig
2. Algeria Wladychol
3. Cenedlaetholdeb(au) Algeriaidd
4. Rhyfel Algeria I: Dechrau'r Rhyfel
5. Rhyfel Algeria I - Ond Rhyfel Pwy?
6. Rhyfel Algeria II: Diwedd Algerie francaise
7. 'La Valise ou le cercueil': Hanes yr Harkis a'r Pieds-noirs
8. Wedi'r Rhyfel: Olion a Chanlyniadau'r Rhyfel
9. Sesiwn Adolygu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir y gallu i ffurfio, dadansoddi a datgan barn yn annibynnol, ac amddiffyn y farn honno ar lafar ac yn ysgrifenedig. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau dadansoddol. |
Gwaith Tim | Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r profiad dysgu ar y modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir sgiliau trefniadaeth drwy reoli astudiaethau personol, a chwblhau traethawd ar adeg penodol. |
Rhifedd | Nid yw'r modiwl yn ymdrin â'r sgil hon yn uniongyrchol. |
Sgiliau pwnc penodol | Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol |
Sgiliau ymchwil | Datglygir y gallu i ddefnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn beirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we, y Porth, technoleg fideo-gynadledda a phrosesydd geiriau wrth gwblhau'r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5