Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminar | 10 x Seminarau 1 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 2 x traethawd (1,500 gair yr un) Mae hyn yn unol a modiwlau 20 credyd eraill yn yr adran sydd ar lefel 4. | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr arholiad | 60% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr asesiad Atodol Maer asesiad atodol hwn yn unol a modiwlau lefel 4 20 credyd eraill yn yr adran syn cynnwys dau draethawd ac un arholiad ar gyfer yr asesiad semester. 1 x arholiad ysgrifenedig a fydd yn ymdrin a'r un meysydd a'r asesiadau semester (2 awr) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
.
dangos ymwybyddiaeth o hanes cyffredinol Ewrop o 1789 i'r presennol
dangos dealltwriaeth o'r syniadau pwysicaf sydd wedi cyfrannu at hunaniaeth(au) Ewropeaidd a gorllewinol ers 1789
dangos dealltwriaeth o gyfnodau allweddol yn hanes Ewrop
dangos dealltwriaeth o dueddiadau a datblygiadau cyffredinol yn niwylliant gorllewin Ewrop
.
dangos y gallu i ystyried elfennau diwylliannol o fewn cyd-destun hanesyddol
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal a digwyddiadau hollbwysig 'Ewropeaidd' sydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at hanes y byd: Chwyldroadau gwleidyddol y 19eg Ganrif, y Chwyldro Diwydiannol, Twf Cenedlaetholdeb, Syniadau newydd fel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth, Twf Ffasgaeth, y ddau Ryfel Byd, er enghraifft. Yn ystod hanner cyntaf y cwrs, fe fydd yn canolbwyntio ar y 18fed a'r 19eg Ganrif, ac yn edrych ar gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol Ewrop ar drothwy'r Oes Fodern. Edrycha'r modiwl ar yr Oes Oleuedig, a'r 19eg ganrif a'r Oes Ramantaidd. Mae'r ail dymor yn canolbwyntio ar yr ugeinfed ganrif a hyd at y presennol.
Nod
Modiwl ar gyfer myfyrwyr y Celfyddydau ar ddechrau eu gyrfa academaidd yw hwn. Mae'n archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i'r cyfnod modern. Serch hynny, nid modiwl hanesyddol yn unig yw hwn. Fe geir amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop yn gyffredinol, ond anogir y myfyrwyr i ddadansoddi diwylliant Ewropeaidd a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig i'r datblygiad hwnnw. Mae'r modiwl yn darparu sail hollbwysig er mwyn i fyfyrwyr allu astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder a bydd yn cyfeirio at ystod eang o ffurfiau diwylliannol: llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm.
Cynnwys
1. Sesiwn cyflwyno (pawb)
2. Darlith: Ewrop 17-89-1815(Chwyldro Ffrengig, Cyfnod Napoleon a'r Goleuo) (i'w gadarnhau)
3. Darlith a seminar: Hanes Ewrop 1815-1830 (Cytundeb Fiena, Chwyldro 1830 a Rhamantiaeth) (i'w gadarnhau)
4. Darlith: Chwyldro Diwydiannol yn Ewrop (Edith Gruber)
5. Darlith a seminar: Chwyldro 1848 a Genedigaeth y genedl-wladwriaeth (Edith Gruber)
6. Darlith a seminar: Egin cenedlaetholdeb yn Sbaen a diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghatalwnia (Sian Edwards)
7. Darlith a seminar: Ymfudo yn yr Oes Ddiwydiannol (Gethin Matthews/ Edith Gruber)
8. Sesiwn ysgrifennu traethawd (Edith Gruber)
9. Sesiwn adolygu ac adborth (Edith Gruber)
Yr 20fed a'r 21ain Ganrif
9. Darlith a seminar: Y Rhyfel Byd Cyntaf (Gethin Matthews)
10. Darlith a seminar: Gwreiddiau a Thwf Ffasgaeth (Steffan John)
11.Darlith: Ffasgaeth mewn grym (Steffan John)
12.Darlith a seminar: Ffrainc a'r Ail Rhyfel Byd: Ffilm Au Revoir les Enfants (Kathryn Jones)
13.Darlith a seminar: Ffilmio Ewrop: yr 20fed Ganrif a'r 21ain (Jonathan Ervine)
14. 2 ddarlith a seminar: Ewrop a'r Byd: Dehongli'r byd trwy lygaid 'Ewropeaidd' (Sophie Smith)
15. 2 ddarlith a seminar: Ewrop ac America Ladin (Geraldine Lublin)
16. Darlith: Sefydlu'r Undeb Ewropeaidd (Sian Beidas)
17. Darlith a seminar: Statws Ieithoedd Lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd (Sian Beidas)
18. Sesiwn adolygu ac adborth (i'w gadarnhau)
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir: Sgiliau cyfathrebu ar lafar, drwy gyfrannu i drafodaethau'r dosbarth a seminarau, ac yn ysgrifenedig drwy ysgrifennu traethodau |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir drwy ddarlithoedd a seminarau: Y gallu i ddatblygu barnau annibynnol ac i fynegi, arholi ac amddiffyn y farn honno ar lafar ac yn ysgrifenedig |
Datrys Problemau | Datblygir: Y gallu i ddadansoddi digwyddiadau hanesyddol a diwylliant yn feirniadol drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw. |
Gwaith Tim | Dysgir y seminarau mewn grwpiau bach ac mae trafodaethau grwp yn rhan annatod o'r dysgu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygir: Sgiliau trefnu amser trwy reoli eu hastudiaethau a'u gwaith trwy gyflwyno traethodau asesedig yn brydlon |
Rhifedd | Nid yw'r modiwl hwn yn ymdrin â'r sgil hwn yn uniongyrchol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw: Y gallu i ddadansoddi diwylliant o fewn cyd-destun hanesyddol |
Sgiliau ymchwil | Datblygir drwy ddarlithoedd, seminarau, traethodau a'r arholiad nas gwelir o flaen llaw: Y gallu i ymchwilio pwnc yn effeithiol Y gallu i ddadansoddi testunau, delweddau, ffilm a ffynonellau diwylliannol eraill |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio'r we, y Porth, technoleg fideo-gynadledda a phrosesydd geiriau wrth baratoi ar gyfer seminarau ac ysgrifennu traethodau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4