Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 20 x Darlithoedd 1 Awr |
Seminar | 6 x Seminarau 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
1. Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol, sy'n gysylltiedig a ffurfio hunaniaethau cenedlaethol ym Mhrydain ac Iwerddon yn y cyfnod 1850-1914.
2. Ystyried yn feirniadol ffurfiad hunaniaethau cenedlaethol y pedair cenedl yn Ynysoedd Prydain, a'u perthynas a hunaniaeth Brydeinig sy'n pontio trostynt.
3. Ystyried yn feirniadol y berthynas rhwng newid cymdeithasol a gwleidyddol gwaelodol ac ymarferiadau cymdeithasol ehangach, a ffurfio hunaniaethau imperialaidd.
4. Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'n berthnasol i'r astudiaeth o hunaniaethau cenedlaethol yn y gorffennol.
Nod
Prif amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i syniadau yn ymwneud â’r ymerodraeth, hunaniaeth genedlaethol a chreu hunaniaethau cymunedol eraill mewn cyfnod hanesyddol pan oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ei hanterth.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn trafod datblygiadau ym Mhrydain ac Iwerddon o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf yng nghyd-destun twf imperialaeth. Hwn oedd oes aur yr Ymerodraeth Brydeinig. Unwyd Prydain ac Iwerddon o dan yr un llywodraeth ers 1801. Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut oedd y chwyldro mewn cyfathrebu a ddigwyddodd yn y bedwaredd ganrif ar bymttheg yn creu cyd-destun newydd ar gyfer datblygu hunaniaeth Brydeinig ganoledig newydd (e.e. trwy ail-becynnu’r frenhiniaeth fel sefydliad imperialaidd mewn oes o gyfathrebu torfol) ond mae hefyd yn ystyried sut flodeuodd amrywiaeth ddiwylliannol yn ogystal, gyda hunaniaethau Seisnig, Albanaidd, Cymreig ac, yn arbennig Gwyddelig, yn cael eu creu.
Cynnwys
1. Rhagymadrodd: Prydain, Iwerddon a’r Ymerodraeth
2. Cynnydd a’r Bobl: Rhyddfrydiaeth a Gwladgarwch yng nghanol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
3. Papurau, y Post ceiniog a’r Rheilffordd: y Chwyldro mewn Cyfathrebu
4. Dyfeisio Taddodiadau: y Frenhiniaeth, 1850-1914
5. ‘Dim Pabaeth!’: Protestaniaeth a Gwrth-Babyddiaeth ym Mhrydain
6. ‘Play Up and Play the Game!’: Chwaraeon ac Hunaniaeth Genedlaethol, c.1860-1914
7. Tirwedd a Phobl: Seisnigrwydd a’r Victoriaid
8. Wedi’r Newyn Mawr: Iwerddon a Chanlyniadau Newyn, 1850-70
9. Tartan a’r Ucheldiroedd: Ail-greu Hunaniaeth yr Alban
10. Creu Cenedl: Cymru a’r ‘Genedll Anghydffurfiol’
11. Dysgu’r Lliaaws: Addysg y Wladwriaeth, 1870-1914
12. Cenedl Seisnig: Ceidwadaeth a Disraeli yn y 1870au
13. Ymreolaeth I Iwerddon, 1885-1900
14. ‘Ulster Will Fight!’: Unoliaethwyr Gwyddelig, 1885-1914
15. ‘Wider Still and Wider’: Imperialaeth Poblogaidd, 1870-1914
16. Gwladgarwch a Hil: Mudiadau i’r Ifainc, c.1889-1914
17. ‘Pleidleisiau i Ferched!’ Y Frwydr dros Hawliau Merched
18. Prydain, Iwerddon a’r Ymerodraeth ar Drothwy Rhyfel
Seminarau
1. Trafodaeth ragarweiniol
2. Yr Alban a’r Undeb
3. Y Frenhiniaeth
4. Seisnigrwydd a’r Cefn Gwlad
5. Y Cwestiwn Gwyddelig
6. Imperialaeth poblogaidd
7. Seminar adolygu
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Rhifedd | Ddim yn briodol |
Sgiliau pwnc penodol | Ddim yn briodol |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6