Module Information

Cod y Modiwl
HC33420
Teitl y Modiwl
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 18 x Darlithoedd 1 Awr
Seminar 6 x Seminarau 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 1 traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll 1 traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 traethawd 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 traethawd 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos sylfaen gadarn o wybodaeth o’r deunydd eilaidd a’r dadleuon sy’n parhau o ran astudio trosedd a therfysg yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif diweddar a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
2. Dangos gallu i fyfyrio ar a dadansoddi’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys, adroddiadau papur newydd, baledi a chofnodion trosedd.
3. Dangos gallu i ystyried y dystiolaeth hanesyddol sy'n ymwneud â throsedd a therfysg mewn ffordd gytbwys er mwyn llunio dadleuon eglur ar bapur.
4. Dangos eu bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau hanesyddiaethol yn ymwneud â 'hanes oddi isod', ynghyd â dylanwad y haneswyr Marcsaidd a wnaeth ddatlbygu'r agwedd hwn.
5. Dangos dealltwriaeth o agweddau cyfoes tuag at foesoldeb a'r defnydd o gyfiawnder cymunedol.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i ymchwilio i themâu trosedd, terfysg ac anfodlrwydd yng Nghymru yn y cyfnod hwn o fewn cyd-destun y llenyddiaeth eilaidd gyfoethog sy’n perthyn i’r maes. Cyflwynir myfyrwyr i rai o’r dadleuon a phroblemau sy’n codi ar gyfer haneswyr sy’n ymchwilio i’r meysydd hyn. Bydd y modiwl yn ehangu’r dewis sydd ar gael i fyfyrwyr hanes Cymru ac i fyfyrwyr yn gyffredinol sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

1. Ehangu cyfleon i fyfyrwyr i astudio hanes Cymru
2. Cynnig arolwg o gyfnod allweddol yn hanes Cymru o safbwynt yr haenau is a chanol, a’u perthynas gyda’r rheini oedd yn rheoli.
3. Darparu’r sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr i fedru ystyried sut i ymdrin â thystiolaeth am drosedd a therfysg fel rhan o’u hastudiaeth o’r gorffennol.
4. Datblygu ymhellach dealltwriaeth myfyrwyr o sut i ymdrin â theorïau’n ymwneud â hanes trosedd a therfysg.

Disgrifiad cryno

Y mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng y Diwygiad Methodistaidd a Brad y Llyfrau Gleision. Awgrymwyd bod y cyntaf yn amcanu at greu ‘cenedl o bobl ddiflas’, ac yn sgil yr ail ceisiwyd creu’r ddelwedd o Gymru fel ‘gwlad y menyg gwynion’, heb dor-cyfraith yn amharu arni. Awgryma’r cyhuddiadau yn y Llyfrau Gleision ynglŷn ag anfoesoldeb yn y Gymru Anghydfurffiol na lwyddodd y Methodistiaid yn eu nod. Bwriad y modiwl yw archwilio agweddau’r boblogaeth yn gyffredinol at drosedd a chamymddwyn, a’r rhesymau dros derfysgoedd y cyfnod. Yn cydgerdded â Chymru sobor a difrifol yr Anghydfurffwyr, felly, yr oedd Cymru a oedd weithiau’n afreolus a llawn rialtwch, ac a oedd mewn rhai achosion yn troi llygad dall i drosedd a chamymddwyn.

Cynnwys

Darlithoedd (2 yr wythnos)
1. Rhagarweiniad
2. Tadolaeth, moesoldeb ac arweinwyr cymdeithas
3. Crefydd a safonau moesol
4. Y ‘Côd Gwaedlyd’ a rheolaeth gymdeithasol
5. Cadw trefn
6. Trosedd a chosb
7. Cosb heblaw’r gosb eithaf
8. ‘Troseddau cymdeithasol’: trosedd fel protest?
9. Cymdeithas dreisgar?: byw, marw a chwarae
10. Cyfiawnder, moesoldeb a’r gymuned
11. Protest a therfysg yn y ddeunawfed ganrif
12. Y 1790au: trobwynt cythryblus?
13. Anfodlonrwydd gwledig hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
14. Anfodlonrwydd diwydiannol hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg
15. Y 1830au a Therfysg Merthyr 1831
16. Siartiaeth a Chasnewydd 1839
17. ‘Ac a fendithiasant Rebeca’?
18. ‘Brad y Llyfrau Gleision’

Seminarau:
1. Y bonedd, awdurdod a’r ‘côd gwaedlyd’.
2. Trosedd, cosb a chymdeithas: troseddau marwol.
3. Trosedd, cosb a chymdeithas: dienyddio cyhoeddus
4. Traddodiad terfysg yn y ddeunawfed ganrif.
5. Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd gwledig a Beca
6 Y bedwaredd ganrif ar bymtheg: anfodlonrwydd diwydiannol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6