Module Information

Cod y Modiwl
HC32220
Teitl y Modiwl
Gwrthdaro a Chydfodolaeth: Cymru o’r Normaniaid hyd Glyndŵr
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 4 x Seminarau 2 Awr
Darlith 20 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau  t  50%
Asesiad Ailsefyll (Ailsefyll) Traethawd 1 - 1 x 2,500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll (Ailsefyll) Traethawd 2 - 1 x 2,500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth bendant o ddulliau cyfoes a dadleuon ynglŷn â hanes Cymru o gyfnod y Normaniaid hyd Glyndŵr.
2. Arddangos dealltwriaeth o ddatblygiadau allweddol yng nghymdeithas, gwleidyddiaeth ac economi Cymru yn yr Oesoedd Canol.
3. Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd.
4. Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol a chynhyrchu dadleuon priodol.
5. Arddangos y medrau sydd yn briodol i astudio’r Oesoedd Canol a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol.

Nod

1. Cyflwyno hanes Cymru rhwng dyfodiad y Normaniaid a Gwrthryfel Glyndŵr.
2. Annog myfyrwyr i feddwl am Gymru yn y cyd-destun Ewropeaidd.
3. Hyfforddi myfyrwyr i ddeall a defnyddio ffynonellau gwreiddiol o’r cyfnod.
4. Galluogi myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am agweddau megis gwrthdaro, cydfyw a dylanwad diwylliannau a phobloedd ar ei gilydd.

Disgrifiad cryno

Mae’r cestyll a feddai Edward I yng Nghymru, sydd bellach yn adfeilion, yn atgof pwerus o oes o oresgyn a brwydro a barhai am nifer o ganrifoedd. Gan gychwyn gyda Goresgyniad y Normaniaid yn Lloegr a dyfodiad ymsefydlwyr Normanaidd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn trafod esgyniad a chwymp tywysogion Cymru, ac yn gorffen gyda gwrthryfel Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif, amcan y modiwl hwn yw cyflwyno’r cyfnod hwn o frwydro a chydfyw a luniai drosodd a thro hynt Cymru a’i phobl yn yr Oesoedd Canol. Bydd sefyllfa Cymru yn yr Oesoedd Canol yn cael ei gosod yn y cyd-destun ehangach, Ewropeaidd trwy asesu effaith gwleidyddiaeth, masnach, a rhyfel ar y gymdeithas yng Nghymru a’r berthynas rhwng yr elfennau hyn.

Cynnwys

DARLITHOEDD 1. Cyflwyniad a ffynonellau canoloesol
2. Dyfodiad y Normaniaid: sefydlu’r Mers
3. Normaniaid a thywysogion: y frwydr am oruchafiaeth
4. Y Normaniaid yng Nghymru: dylanwad ac effaith
5. Yr Arglwydd Rhys
6. Llywelyn ab Iorwerth
7. Llywelyn ap Gruffudd
8. Edward I a Chymru
9. Ymweliad a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
10. Cymdeithas ac economi
11. Eglwys Cymru yn yr Oesoedd Canol
12. Diwylliant
13. Y di-lais yng Nghymru’r Oesoedd Canol
14. Cymru wedi’r goncwest (i): tensiwn a gwrthdaro
15. Cymru wedi’r goncwest (ii): cydfyw a chydweithio
16. Owain Glyndŵr (i): cefnogaeth a gwrthwynebiad
17. Owain Glyndŵr (ii): canlyniadau
18. Casgliadau

SEMINARAU
1. Normaniaid a thywysogion: hanes dwy Gymru?
2. Y ddau Llywelyn: llunio gwladwriaeth Gymreig?
3. Cymru a’r cyfandir: cymdeithas ryngwladol?
4. Gwrthryfel Glyndŵr: gwrthryfel cenedlaethol?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Ddim yn briodol
Sgiliau pwnc penodol Ddim yn briodol
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6