Module Information

Cod y Modiwl
GF39620
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig 2 (sem 2)
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
Rhagofynion
GF10110/GF30110 ac GF35220/LA35220 neu GF39520/LA39520
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 6 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd estynedig  o 6000-10000 o eiriau. Bydd angen cyflwyno adroddiad ymchwil yn ystod wythnos 8 y semester perthnasol. Os na chyflwynir adroddiad ymchwil boddhaol, caiff 5 marc eu tynnu o farc terfynol y traethawd estynedig.  100%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methur asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwynor traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg ir hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir ir myfyriwr fynychu unrhyw or darlithoedd sydd yn rhan or modiwl os ywn dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda cyd-lynydd y modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:


a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas

b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data

c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd

d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno'r ddadl a'r wybodaeth yn effeithiol

e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.

Disgrifiad cryno

Modiwl tra gwahanol yw'r modiwl hwn o gymharu a modiwlau eraill yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan ei fod yn ymdrin a gwaith ymchwil ac ysgrifennu estynedig ar bwnc arbennig yn hytrach na phwnc a arweinir gan y darlithwyr. Mater ydyw i'r myfyriwr unigol i ddewis eu maes pwnc ar gyfer ymchwil manwl gydag arweiniad a sel bendith gan yr Adran. Yna, mater iddo/iddi ydyw i ymchwilio ac ysgrifennu am y testun o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd ag ymwybyddiaeth o'r maes pwnc sydd yn gefndir i'r testun. Pwrpas y modiwl yw meithrin sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu, a chan hynny, adeilada ar yr wybodaeth a'r hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell a enillwyd yn y modiwl Proses Gyfreithiol. Dibynna'r gallu i ymchwilio yn effeithiol ar y gallu i ddefnyddio ystod eang o adnoddau llyfrgell ac i ganfod adnoddau drwy ddefnyddio cronfeydd data a theclynnau llyfryddiaeth. Rhoddir arweiniad gan y goruchwyliwr drwy gyfres o gyfarfodydd lle disgwylir i'r myfyriwr adrodd ar ddatblygiad yr ymchwil a chyflwyno drafftiau ysgrifenedig er mwyn derbyn adborth. Rol y goruchwyliwr yw cynghori'r myfyriwr ynghylch y dulliau ymchwil a ddefnyddir a sut i gyflwyno'r canlyniadau yn y traethawd ei hunan.

Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd a gwaith ymchwil am y tro cyntaf.

Diben asesu'r adroddiad ymchwil yw cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil a'r galluogi i wella eu perfformiad yn gyffredinol. Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'r briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw'r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a'r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu'r gallu i weithio'r gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu'r effeithiol yn ysgrifenedig.

Nod

Meithrin sgiliau a gysylltir a darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i'r rhai a ddatblygir drwy'r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6