Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlith | 6 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Bydd angen cyflwynor adroddiad ymchwil yn ystod wythnos 8 y semester perthnasol. Os na chyflwynir adroddiad ymchwil boddhaol, caiff 5 marc eu tynnu o farc terfynol y traethawd estynedig. | 100% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd estynedig Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methur asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwynor traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg ir hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir ir myfyriwr fynychu unrhyw or darlithoedd sydd yn rhan or modiwl os ywn dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda chyd-lynydd y modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Gellir crynhoi amcanion yr elfennau o hyfforddiant ymchwil fel a ganlyn:
a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas
b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data
c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd
d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno'r ddadl a'r wybodaeth yn effeithiol
e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.
Disgrifiad cryno
Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd a gwaith ymchwil am y tro cyntaf.
Diben asesu'r adroddiad ymchwil yw cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil a'r galluogi i wella eu perfformiad yn gyffredinol. Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'r briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw'r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a'r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu'r gallu i weithio'r gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu'r effeithiol yn ysgrifenedig.
Nod
Meithrin sgiliau a gysylltir a darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i'r rhai a ddatblygir drwy'r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6