Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Gweithdy | 1 x Gweithdy 8 Awr |
Darlith | 10 x Darlithoedd 2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymryson | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 1500 o eiriau | 75% |
Asesiad Ailsefyll | Ymryson - os caiff y ymryson ei fethu | 25% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1500 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Galluoedd pwnc-benodol
1. Canfod, adnabod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar gyfer ymchwil gyfreithiol.
2. Cymryd cyfrifioldeb cynyddol am sicrhau cywirdeb eu hiaith eu hunain a gwybod sut i ddefnyddio gwahanol gymhorthion iaith megis geiriaduron a llyfrau gramadeg a deunydd cyfrifiadurol i loywi eu hiaith yn gyffredinol.
3. Ysgrifennu nodiadau cydlynus a chynhwysfawr ar destunau cyfreithiol, gan gynnwys testun penderfyniad barnwrol, yn Gymraeg.
4. Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.
5. Datblygu gwybodaeth am ddrafftio cyfreithiol a sgiliau yn y maes.
6. Trawsieithu deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.
7. bod yn ymwybodol o wahanol gyweiriau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn o^l sefyllfa, pwrpas a'r gynulleidfa.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o hybu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn gallu cwblhau tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodau achos, drafftio deddfwriaethol ayb. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar gywirdeb ieithyddol y tasgau hyn, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgrifennu Cymraeg cyfreithiol graenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar iaith lafar gywir ac addas i'r cywair. Ceir cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr wrth ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu). Rhan bwysig o'r modiwl fydd paratoi at y cyflwyniad llafar lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar y gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a'u sgiliau ieithyddol trwy gyfrwng ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6