Module Information
Cod y Modiwl
FGM5860
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
PHM5860
Rhagofynion
PH37540 neu FG37540 (neu CC39440 neu CS39440 ar gyfer cynllun gradd Gwyddor y Gofod a Roboteg)
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cynnydd (bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) | 10% |
Asesiad Semester | Adolygiad Llyfryddiaeth (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 15% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar (yn Gymraeg) | 15% |
Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
1. Dangos dealltwriaeth fanwl o'r ffiseg yn eu testun astudio.
2. Adolygu'r datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil dan sylw fel a gofnodir yn y llyfryddiaeth a arfarnwyd.
3. Cynllunio a gweithredu prif brosiect ymchwil.
4. Dehongli a thrafod eu canlyniadau yn nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun.
5. Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ysgrifenedig ffurfiol.
Disgrifiad cryno
Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chyfnod cynllunio y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil y sefydliad o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.
Cynnwys
Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7