Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 22 x Sesiynau Ymarferol2 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Cyflwyniad Grwp | 20% |
Asesiad Semester | Adroddiad Unigol | 60% |
Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddiaeth | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Chwilio am bapurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i'r gwaith arbrofol a chyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd gyffelyb.
Cynllunio ac chyflawni arbrawf ac yna dadansoddi'r data a gwerthuso'r arbrawf gydag ond ychydig fewnbwn gan y staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau labordy a ddatblygwyd yn gynharach yn ystod y cwrs.
Gweithio mewn grwp i gyfathrebu manylion a chanlyniadau arbrawf mewn cyflwyniad llafar.
Ysgrifennu adroddiad unigol ar arbrawf.
Cynnwys
- deall disgrifiad byr o'r arbrawf
- ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrawf
- dod yn gyfarwydd ag offer a data arbrofol
- rheoli offer yn electronig a thrwy feddalwedd
- dadansoddi a modelu data
- cyfathrebu canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig
- gweithio fel rhan o dim.
Nod
Nod y modiwl yw datblygu'r sgiliau dadansoddol ac arbrofol sy'n angenrheidiol i gyflawni arbrofion ffiseg estynedig, ynghyd a sgiliau gwerthuso beirniadol a chyfathrebu canlyniadau. Mae'r sgiliau hyn yn ffurfio rhan hanfodol o hyfforddiant ffisegydd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhagarweiniad i'r modiwl prosiect blwyddyn-olaf ac yn rhoi profiad ac ymdeimlad i'r myfyrwyr o ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad ar gyfer gyrfa myfyriwr. Disgwylir i'r myfyriwr gyflawni arbrawf estynedig yn ystod y semester. Byddant yn gweithio mewn gr'r ac mae'n ofynnol iddynt: ymchwilio cefndir yr arbrawf, edrych ar y cyfarpar sydd ar gael; rhesymu i ddatblygu strategaeth arbrofol, a dadansoddi canlyniadau'r arbrawf. Caiff y modiwl ei asesu mewn tair ffordd: yn gyntaf bydd y grwp yn cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail bydd y grwp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Cyflwynir yr adroddiad yn unigol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae angen sgiliau cyfathrebu a llythrennedd er mwyn cyflwyno'r canfyddiadau mewn cyflwyniad grwp ac mewn adroddiad ysgrifenedig. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae nifer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol er mwyn ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau arbrofol yn unol a hynny. |
Gwaith Tim | Caiff yr ymchwiliad arbrofol a'r cyflwyniad eu gwneud mewn grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy adlewyrchu ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach mae'r myfyriwr yn datblygu eu dysgu a'u perfformiadau eu hunain. |
Rhifedd | Mae cymhwyso rhif yn ganolog yn y dadansoddiad o ddata arbrofol, gan gynnwys trin cyfeiliornadau |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir ac asesir sgiliau pynciol, ond dibynna'r manylion ar destun neilltuol yr arbrawf estynedig. |
Sgiliau ymchwil | Mae angen sgiliau ymchwil i gynllunio arbrofion a phrofi damcaniaethau. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae offer a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni arbrawf, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6