Module Information

Cod y Modiwl
FG34410
Teitl y Modiwl
Addysgu Ffiseg drwy brofiad gwaith mewn ysgol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Rhagofynion
PH22510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 1 x Darlith 5 Awr
Amrywiol 11 x Gweithgareddau Amrywiol 5 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur/log o weithgaredd y myfyriwr yn ystod y profiad gwaith  30%
Asesiad Semester Tasg benodol o baratoi deunydd sy'n atgyfnerthu addysgu Ffiseg  40%
Asesiad Semester Adroddiad ysgrifenedig gan fentor (athro)  30%
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion addysgu ffiseg mewn ysgol,

Arddangos dealltwriaeth o ofynion cyfathrebu ac arddangos cysyniadau ffiseg ar lefel addas i blant ysgol,

Cadw dyddiadur/log o weithgareddau yn ystod cyfnod y profiad gwaith sy'n dangos datblygiad yn eu gweithgaredd addysgu,

Paratoi tasg benodol wedi'i hanelu at gefnogi addysgu,

Cael ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd addysg STEM a'r heriau cysylltiedig.

Nod

Mae'r modiwl ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn addysgu, ac yn dymuno cael profiad o leoliad gwaith mewn ysgol leol. Drwy'r profiad gwaith, gydag athro yn fentor, bydd y myfyriwr yn arsylwi a chynorthwyo gyda rhai o'r gweithgareddau.

Disgrifiad cryno

Ar gyfer y modiwl, bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant ffurfiol cyn y profiad mewn ysgol. Yn yr ysgol disgwylir i fyfyrwyr gyflawni gweithgareddau arsylwi yn bennaf, ac yna symud ymlaen at gynorthwyo gyda gweithgareddau addysgu graddfa fach.
Mae'n ofynnol i'r myfyriwr gael gwiriad llawn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac i'r ysgol gadarnhau y lleoliad gwaith. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn y modiwl gysylltu â'r cydlynydd Dysgu ac Addysgu Ffiseg i gael caniatad i gofrestru ar y modiwl.

Cynnwys

Caiff y myfyrwyr:

hyfforddiant cychwynnol,
brofiad gwaith mewn ysgol: 10 hanner diwrnod o dan oruchwyliaeth athro,
arsylwi, goruchwylio ac yna gweithgareddau addysgu graddfa fach e.e. cymorth i ddeall testunau yn y pwnc / taflenni enghreifftiau pynciol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy'r aseiniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae gan y modiwl, sydd wedi ei seilio ar brofiad yn y gweithle, olwg benodol ar gynllunio ar gyfer gyrfa.
Datrys Problemau Mae'r sgil o ddatrys problemau yn ganolog mewn Ffiseg ac yn hanfodol ar lefel addysgu mewn ysgol.
Gwaith Tim Bydd angen rhyngweithio gyda disgyblion ac athrawon.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd yr aseiniadau, profiad a'r adborth yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu perfformiad.
Rhifedd Mae cwestiynau yn y pwnc yn cynnwys problemau rhifyddol.
Sgiliau ymchwil Bydd angen i'r myfyrwyr ymchwilio'r wybodaeth ar y pwnc, gan ddefnyddio deunydd llyfrgell a'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testunau perthnasol gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6