Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 44 x Sesiynau Ymarferol2 Awr |
Darlith | 1 x Darlith 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiadau Ffurfiol | 60% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad | 20% |
Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddiaeth | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ail wneud y cydran a fethwyd | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
- Chwilio am bapurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i'r gwaith arbrofol a chyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd gyffelyb
- Cynllunio, gweithredu ac adrodd ar arbrawf gydag ond mewnbwn bychan iawn gan staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd mewn modiwlau blaenorol
Nod
Mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu sgiliau dadansoddi ac arbrofol angenrheidiol ar gyfer cyflawni arbrofion ffiseg o safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal a chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol.
Disgrifiad cryno
Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni dau arbrawf yn ystod y semester. Argyfer pob modwl, bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump a bydd angen iddynt ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio'r offer sydd ar gael ac yna ddatblygu strategaeth arbrofol a dadansoddi'r canlyniadau. Caiff pob arbrawf ei asesu mewn tair ffordd; yn gyntaf bydd y grwp yn cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail bydd y grwp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Cyflwynir yr adroddiad yn unigol.
Cynnwys
Darperir goruchwyliaeth neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn y Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt roi cyflwyniad llafar yn Gymraeg.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Cydran bwysig yw'r cyflwyniad grŵp o'r canlyniadau arbrofol i'w cyd-fyfyrwyr. Bydd lyrhain yn datblygu sgiliau cyflwyno llafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig. |
Datrys Problemau | Mewn cyferbyniad i'r flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. |
Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4 neu 5. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio a chyflawni arbrofion gyda chymorth gan staff. Y cymhelliad fodd bynnag yw i'r myfyrwyr arwain yr arbrofion a gweithio fel tim. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad gyrfa myfyriwr. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i'r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff y canlyniadau o'r chwiliadau eu cyflwyno mewn adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddylwedd llyfryddiaeth gyffelyb. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5