Module Information
Cod y Modiwl
FG15700
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ffiseg Arbrofol a Chyfrifiadurol
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
PH15510, PH15720, FG15510
Rhagofynion
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 11 x Sesiynau Ymarferol3 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Dadansoddidata gan ddefnyddio pecyn cyfrifiadur Dadansoddi data gyda ddefnyddio pecyn cyfrifiadur | 20% |
Asesiad Semester | 2 adroddiad Labordy x 20% yr un | 40% |
Asesiad Semester | Dyddiadur Labordy | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. cadw dyddiadur labordy
2. ysgrifennu adroddiadau labordy gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau
3. pennu achosion a lleihau effeithiau ansicrwydd arbrofol
4. cyflwyno gwerth mesuriad ffisegol ynghyd a'i gyfeiliornad cysylltiedig
5. defnyddio a deall cyfyngiadau offer labordy syml
6. defnyddio pecyn cyfrifiadur ar gyfer ymarferion cyfrifiadurol sylfaenol mewn Ffiseg
7. cymhwyso'r sgiliau uchod i gynnal arbrofion ffiseg sylfaenol
Disgrifiad cryno
Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda damcaniaethau.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ffiseg gyfrifiadurol wedi ychwanegu dimensiwn newydd i arbrofi, oherwydd fod pŵer cyfrifiaduron a meddalwedd modern wedi ei gwneud yn bosibl i gasglu llawer o ddata a galluogi efelychiadau realistig o ffenomenau cymhleth. Mae hyn wedi ehangu'r ardaloedd sy'n hygyrch i ffisegwyr yn ogystal â chyflwyno disgyblaeth newydd, sef ffiseg cyfrifiadurol, i'r cwricwlwm. Mae'r defnydd eang o fodelu cyfrifiadurol mewn meysydd diwydiant, ariannol a rheolaeth wedi golygu galw mawr am fyfyrwyr sydd â'r sgiliau hyn.
Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o radd ffiseg yn Aberystwyth a chynlluniwyd y modiwlau ffiseg arbrofol fel bo myfyrwyr yn datblygu dros y dair neu bedair mlynedd o ddilyn cyfarwyddiadau manwl ar gyfer cynnal arbrofion syml yn y flwyddyn gyntaf, i ymchwilio testun a chynllunio a chynnal arbrofion eu hunain yn y prosiectau blwyddyn olaf.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i faes allweddol ffiseg arbrofol, sy'n agor drws i ddeall y byd o'n cwmpas, a dysgu sut i ddefnyddio ffiseg cyfrifiadurol i wella cynllunio arbrofion a dehongli canlyniadau arbrofol.
Disgwylir i israddedigion gofnodi eu gwaith mewn dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal i'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i ysgrifennu 2 o'r arbrofion ar ffurf adroddiad ffurfiol, yn cynnwys ymchwilio i'r testunau.

Cynnwys
• Cyflwyniad i becynnau PC sydd ar gael yn y labordai dysgu.
• Cyflwyniad i ffiseg cyfrifiadurol gan ddefnyddio pecyn PC.
• Dadansoddi cyfeiliornad sylfaenol.
• Cynnal dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Arbrofion trydanol syml, defnydd o amlfesurydd ac osgilosgop
• Arbrofion Mecaneg, cydbwyso grymoedd mewn system statig
• Arbrofion opteg, diffreithiant a natur ton golau.
• Yn ychwanegol i'r arbrofion sylfaenol uchod, bydd gofyn i'r myfyrwyr berfformio detholiad o arbrofion sy'n ymchwilio sawl agwedd allweddol o ffiseg:
ehangiad thermol, dargludedd a phelydriad, deddfau nwy, cadwraeth momentwm, opteg, diffreithiant, lensau a pelydrau.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiaduron Labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau wrth gynnal yr arbrofion ac wrth drin y data a gesglir o'r arbrofion |
Gwaith Tim | Yn gyffredinol, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau, ac rydym yn annog cydweithrediad wrth ddatrys problemau modelu |
Rhifedd | Yn ei hanfod, mae ffiseg wedi'i seilio ar ddefnydd mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhifau. Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn rhan ganolog o'r modiwl hwn |
Sgiliau pwnc penodol | Cynllunio a chynnal arbrofion. Dadansoddi ansicrwydd arbrofol |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion |
Technoleg Gwybodaeth | Mae dadansoddi data modern yn dibynnu ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Yn y modiwl bydd myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadur i ddadansoddi data, ac mae disgwyl iddynt gyflwyno eu hadroddiadau gan ddefnyddio prosesydd geiriau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4