Module Information
Cod y Modiwl
FG12910
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
PH12910, MT12910, MP12910
Rhagofynion
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Ymarferol | 14 x Sesiynau Ymarferol3 Awr |
Tiwtorial | 3 x Tiwtorial 1 Awr |
Darlith | 13 x Darlithoedd 1 Awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Taenlen | 25% |
Asesiad Semester | Rhaglennu Macro | 25% |
Asesiad Semester | Poster Grŵp | 15% |
Asesiad Semester | Dogfen CV | 15% |
Asesiad Semester | Sgwrs Unigol | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Ail-adrodd y rhan(nau) a fethwyd | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen ar gyfer cyfrifiadau, cymhwyso rhaglenni macro, ac arddangos crynodebau a siartiau o'r data.
2. Defnyddio pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau ar gyfer cyflwyno i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
3. Adnabod gyrfaoedd ar gyfer graddedigion Ffiseg a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
4. Egluro testun mewn Ffiseg mewn cyflwyniad llafar.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu macro. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.
Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.

Cynnwys
Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.
Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr), a rhaglennu macro.
Arddulliau cyflwyno a phecynnau (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.
Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaethau Gyrfaoedd i ddangos sut i baratoi dogfennau fel llythyr cyflwyno neu CV.
Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.
Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfathrebir yn ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebir ar lafar yn y cyflwyniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys paratoi dogfen CV. |
Datrys Problemau | Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu macros ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg. |
Gwaith Tim | Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau. |
Rhifedd | Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen a macros. |
Sgiliau pwnc penodol | Rhaglennu drwy raglennu macro mewn Excel. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol. |
Sgiliau ymchwil | Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4